Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MANSEL (TEULU), Oxwich , Penrice , a Margam , sir Forgannwg .

Nid oes brinder defnyddiau at ysgrifennu hanes y Mawnseliaid . Y mae dogfennau Penrice ac abaty Margam yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhifo llawer o filoedd. Astudiwyd rhan helaeth ohonynt gan Walter de Gray Birch (o'r Amgueddfa Brydeinig ), a gyhoeddodd A History of Margam Abbey yn 1897 a Descriptive Catalogue of the Penrice and Margam Abbey Muniments , chwe chyfrol, 1893-1905 , catalog yr ychwanegir ato gan dair cyfrol a baratowyd yn y Llyfrgell Genedlaethol . Heblaw hyn oll y mae gwaith cynhwysfawr C. A. Maunsell ac E. P. Statham , History of the Family of Maunsell (Mansell, Mansel) , a gyhoeddwyd yn dair cyfrol cwarto ( London , 1917-20 ) — cyfrolau sydd yn delio â'r prif gainc, sef Mawnseliaid Penrice a Margam , ac â changhennau eraill. Cawsid manylion yn 1886 gan G. T. Clark yn ei Limbus Patrum Morganiae et Glamorganiae ; cofier, serch hynny, wrth ddefnyddio llyfr Clark , ei baratoi rai blynyddoedd cyn i De Gray Birch ddechrau gweithio ar ddogfennau Penrice a Margam .

Dechreua Clark (op. cit.) gyda HENRY MANSEL , gŵr y tybir iddo ymsefydlu yng Ngŵyr yn ystod teyrnasiad Edward I . Yn ei ddilyn ef ceir RICHARD (ROBERT ?) MANSEL , RICHARD MANSEL , Syr HUGH MANSEL (a briododd Isabel , ferch ac aeres Syr John Penrice o gastell Penrice yng Ngŵyr ), a PHILIP MANSEL , a laddwyd yn Rhyfeloedd y Rhosynnau ac y dygwyd cyngaws o ‘attainder’ yn ei erbyn. Gwraig Philip Mansel oedd Mary , ferch Griffith ap Nicholas , Newton ; mab i'r ddau hyn oedd JENKIN MANSEL , Oxwich , ‘ y gwrol ,’ a lwyddodd i gael gosod o'r neilltu yr anghlod teuluol a'r golled a achoswyd oblegid ‘attainder’ ei dad.

Mab Jenkin Mansel , sef Syr RICE MANSEL (a fu f. 1559 ), o Oxwich a Penrice , a brynodd abaty Margam gan y Goron ( De Gray Birch , Catalogue ). Mab iddo oedd Syr EDWARD MANSEL (a fu f. 1595 ), Oxwich , Penrice , a Margam , a briododd Jane Somerset , merch Henry , ail iarll Worcester ; plant i'r ddau hyn oedd THOMAS MANSEL (yr aer); FRANCIS MANSEL (y tarddodd Mawnseliaid Muddlescombe , sir Gaerfyrddin , ohono; amdanynt hwy gw. catalog Ll.G.C. o ddogfennau Muddlescombe , a hefyd yr ysgrif ar Francis Mansel ); a Syr Robert Mansel , is-lyngesydd llynges Lloegr.

Daeth THOMAS MANSEL (a fu f. 1631 ) yn farwnig . Bu'n siryf ac yn aelod seneddol dros sir Forgannwg , ac efe oedd tad ARTHUR MANSEL , tad Bussy Mansel . Dilynwyd y barwnig 1af gan ei fab hynaf Syr LEWIS MANSEL (a fu f. 1638 ), yr ail farwnig , a ymaelododd yn Rhydychen , 30 Ionawr 1600/1 ac a dderbyniwyd yn Lincoln's Inn , 5 Chwefror 1603/4 . Dywed Anthony Wood iddo roddi £50 y flwyddyn am lawer o flynyddoedd i lyfrgell Coleg Iesu , Rhydychen ; yr oedd yn gefnder i Francis Mansell , pennaeth Coleg Iesu . Ymddengys i Syr Lewis gael ei ddilyn gan ei fab HENRY MANSEL , a fu f. yn ŵr ieuanc, fodd bynnag, ac a ddilynwyd gan ei frawd Syr EDWARD MANSEL (bu f. 17 Tachwedd 1706 yn 70 oed), y 4ydd barwnig , ac un o wŷr mwyaf blaenllaw De Cymru yn ei gyfnod. Ymwelodd y dug Beaufort â Margam yn amser Syr Edward , sef pan oedd yn gwneud ei ‘Progress’ ( 1684 ) trwy Gymru fel llywydd cyngor y goror — ‘ Lord President of Wales ’; gw. T. Dineley , Account of the Progress . Ceir cyfeiriadau mynych at Syr Edward yn nogfennau Margam yn y Llyfrgell Genedlaethol ; gw. ail gyfrol catalog y Llyfrgell — e.e. ei swydd a'i waith fel is-lyngesydd Deheudir Cymru — a hefyd gatalogiau De Gray Birch . Merch iddo oedd Martha a briododd Thomas Morgan , Tredegar — gw. Morgan (Teulu) , Tredegar ; achosodd y briodas hon gryn bryder a thrafferth i Syr Edward , yn enwedig ar yr adeg honno pan oedd y mab-yng-nghyfraith ieuanc yn anfodlon iawn i ddychwelyd o'i daith ar gyfandir Ewrop .

Crewyd Syr THOMAS MANSEL (a fu f. 1723 ), barwnig , mab ac aer Syr Edward Mansel , yn farwn 1af Mansel ar 31 Rhagfyr 1711 . Fel ei dad yr oedd yn flaenllaw yn Neheudir Cymru ; yr oedd hefyd yn ŵr go bwysig yn Lloegr , yn enwedig yng nghylchoedd y Senedd a'r Llywodraeth . Bu'n aelod seneddol dros Gaerdydd , 1689-98 , a thros sir Forgannwg o 1699 hyd 1711 . Cyflwynodd Edward Lhuyd ei Archaeologia Britannica , 1707 , iddo. Bu yntau, fel ei dad, yn is-lyngesydd Deheudir Cymru . O 1704 hyd 1709 ac o 1711 hyd 1712 yr oedd yn ‘ Controller of the Household ’ i'r frenhines Anne . Yr oedd yn un o gomisiynwyr y Trysorlys , 1710-1 , ac yn un o ‘ Tellers’ yr Exchequer , 1712-4 . Yr oedd yn gyfarwydd iawn â'r deon Swift sydd yn cyfeirio ato yn ei Journal to Stella ; yr oedd hefyd ar delerau cyfeillgar â Robert Harley ( iarll Oxford wedi hynny), Francis Gwyn , ac Erasmus Lewis — tri gŵr y ceir llythyrau oddi wrthynt at Mansel yng nghasgliad Margam ; gw. hefyd Hist. MSS. Comm. , Report on the Duke of Portland MSS .

Dilynwyd y barwn Mansel 1af gan ei ŵyr, THOMAS MANSEL , ail farwn Mansel . Bu ef f. yn 1744 heb aer, a dilynwyd ef gan ddau ewythr: ( a ) CHRISTOPHER MANSEL , 3ydd barwn Mansel , na oroesodd ei nai ond am ychydig fisoedd, a ( b ) BUSSY MANSEL , 4ydd farwn Mansel (bu f. 1750 ); ei ail wraig ef oedd Barbara , merch William , ail iarll Jersey . Yr aer olaf yn dwyn yr enw Mansel oedd MARY MANSEL (chwaer Christopher a Bussy ), a phan briododd hi John Ivory Talbot , Lacock Abbey , Wiltshire , y daeth y newid ar gyfenw y brif gangen — Talbot , Mansel Talbot , Talbot , etc.

Fel y gwelwyd uchod, cymerai rhai aelodau o'r teulu gryn ddiddordeb yn hanes a llenyddiaeth eu gwlad ; gw. G. J. Williams , Traddodiad Llenyddol Morgannwg ( Caerdydd , 1946 ), ac edrycher ei fynegai o dan enwau Syr Edward Mansel (bu f. 1585 ) a Syr Lewis Mansel (bu f. 1636 ). Rhoes Syr Lewis fenthyg Llyfr Coch Hergest ( Jes. Coll. MS. 1 ) i'r Dr. John Davies , Mallwyd , yn 1634 , a dywedir i Syr Edward ysgrifennu ‘ An Account of the cause of the Conquest of Glamorgan by Sir Robert Fitz Hamon and his twelve knights ’ (gw. Llanover MSS. C. 27 a C. 74 a J. H. Matthews , Cardiff Records , iv).

Ffynonellau:

  • Enwyd y prif ffynonellau yn yr erthygl;
  • Glanmor Williams, ‘Richard Mansell (1487-1559)’ yn The Glamorgan Historian , VI, 33-51.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54