O'r flwyddyn 1618 bu Syr Robert yn ymddiddori mewn gwneuthur gwydr a llestri gwydr; cawsai gyfran o'r monopoli yn y gwaith hwnnw y flwyddyn honno. Cyfeirir yn fyr at hyn yn y D.N.B., eithr ceir manylion llawnach gan C. A. Maunsell ac E. P. Statham yn Hist. of the Family of Maunsell (Mansell, Mansel), i, pen. xii. Pan fu Tŷr Cyffredin yn ystyried Mesur y Monopolïau yn 1624 gwnaeth Syr Robert ddatganiad y gellir casglu oddi wrtho iddo geisio sefydlu ffatrïoedd mewn gwahanol leoedd — Llundain, Ynys Purbeck, Aberdaugleddau, dyffryn Trent. Dywed John Brand (Hist. of Newcastle): ‘We may venture to fix the beginning of the glass-works upon the Tyne about A.D. 1619, where they were established by Sir Robert Mansell. … The cheapness of sea-coal was no doubt his chief inducement for erecting them at so great a distance from London.’
Y mae'r cyfeiriad at ‘sea-coal’ yn bwysig. Gan fod Syr Robert yn defnyddio ‘sea-coal’ yn lle coed (fel tanwydd) yr oedd ei fonopoli i raddau helaeth yn rhoddi iddo hawl wirioneddol i'w batent; serch hynny yr oedd yn wastad yn gorfod amddiffyn ei batent rhag y rhai a geisiai ei gamddefnyddio a rhag y rheini a oedd yn gwrthwynebu monopolïau fel y cyfryw; am fanylion gw. Maunsell a Statham, op. cit.; yn yr un gwaith ceir copi ffacsimile o wyneb-ddalen ac adargraffiad o gynnwys llyfr gan y llyngesydd, sef A Trve Report of the Service done vpon Certaine Gallies passing through the Narrow Seas; Written to the Lord high Admirall of England, by Sir Robert Mansell Knight, Admirall of her Maiesties forces in that place (London, 1602).
Bu Syr Robert f. yn 1656 — gweinyddwyd ei ewyllys ar 20 Mehefin y flwyddyn honno gan ei weddw. Bu'n briod ddwywaith: (1) cyn 1600, ag Elizabeth, ferch Syr Nicholas Bacon, arglwydd geidwad y sêl fawr; a (2), 1617, ag Anne, ferch Syr John Roper. Ni adawodd blant.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth
Sylwer bod y dogfennau cyfoes hyn yn rhoi lle i gredu nad ‘dyrchafiad’ gwirioneddol oedd penodiad Mansel (1618) yn islyngesydd — yn hytrach, fe'i symudwyd yn fwriadol i swydd lai dylanwadol, yn herwydd ei anonestrwydd yn 1604-18. Ymddengys nad heb sail y cyhuddwyd ef; eto, cadwodd ffafr y brenin ar waethaf methiant truenus ei gyrch ar Algiers yn 1621.
Aled Eames, M.A., (1921-96), Bangor