MANUEL, DAFYDD (1624?-1726), bardd.
Dywedir yn y tri chyfeiriad cyntaf (isod) iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1624-5. Ychydig a wyddys am ei fywyd. Yr oedd yn frodor o blwyf Trefeglwys, sir Drefaldwyn. Bu f. ei wraig, Margaret, yn 1699. Bu iddynt dri o blant: Mary, a ddaeth yn adnabyddus am ganu penillion, Anne, a David. Cyhoeddwyd peth o waith y bardd yn Thomas Jones, Carolau a Dyriau Duwiol, 1696, David Jones, Blodeu-Gerdd Cymry, 1759, Powys Fadog, ii, 259, a'r Gwyliedydd, 1836, 250. Am ei weithiau mewn llawysgrif, gw. Cat. of Add. to B.M. MSS. 1841-5, a J. H. Davies, Cat. of MSS. in N.L.W. Gw. hefyd NLW MS. 558, 566, 593, 653, 783, 832, 1244, 1580, 1710, 1797, 3487, 7191, 11991, Bodewryd MS. 73, a Swansea MS. 2 yn Ll.G.C. Bu f. Mai 1726, a chladdwyd yn Nhrefeglwys 16 Mai 1726.
Llyfryddiaeth:
- Rowlands, Em. W.;
- N.L.W. MS. 9266;
- Gen., Hydref 1884;
- Asaph (Em. W.);
- Not. W.;
- Y Brython, v, 209;
- R. Williams, Mont. Worthies;
- Cofrestri Esgobaeth Bangor yn Ll.G.C.
Awdur:
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth