Credid gynt mai Map oedd awdur y canu ‘Goliardaidd,’ ‘cerddi'r glêr,’ a argraffwyd gan Thomas Wright yn 1841 — Latin Poems attributed to Walter Map. Ni chredir hynny heddiw, serch i M. R. James, gŵr o farn, dueddu i wrthod anghredu (ar y sail ‘na wyddai ef am neb arall ym Mhrydain a allsai sgrifennu'r cerddi’ ond Map). Yn yr un modd, anghredir heddiw'r dyb mai Map bioedd stori Lawnslot yn y rhamantau Arthuraidd — gw. yr ymresymiad o blaid y dyb sydd gan Kingsford. Hen gamsyniad ystyfnig drachefn, yw uniaethu Map (gan iddo fod yn archddiacon Rhydychen) â'r archddiacon Walter o Rydychen (gw. dan ‘Walter Calenius’ yn y D.N.B.) y dywed Sieffre o Fynwy [q.v.] iddo gael ‘hen lyfr Llydaweg’ ganddo — yr oedd y Walter hwnnw wedi marw pan oedd Map yn fachgen. Fel y mae hi, yr unig waith y gellir i sicrwydd ei briodoli i Map yw'r De Nugis Curialium (efallai y gellid ei alw yn Gymraeg ‘Lloffion o'r Llys’), nad yw ar glawr ond mewn un llawysgrif (Bodley 851), a argraffwyd yn bur wael (gan fod yr ysgrifen yn anodd i'w chodi) gan Thomas Wright yn 1850, ac yn llawer iawn cywirach gan M. R. James yn 1914; cyhoeddodd y Cymmrodorion yn 1923 gyfieithiad Saesneg gan James, gyda nodiadau hanesyddol gan (Syr) J. E. Lloyd a nodiadau ar y chwedloniaeth gan E. S. Hartland; cyhoeddwyd detholiad Cymraeg o'r storiau yn 1941 (Llandybie). Nid Map ei hun a ‘drefnodd’ y llyfr — pe bai trefn arno — nac a roes y teitl iddo (benthyg yw hwnnw o is-deitl Policraticus John o Salisbury). Casgliad difyr dros ben ydyw, o chwedloniaeth, ‘adeiladaeth,’ dychan, ac atgofion am hanes cyfoes. Gan i Map fod yn llygad-dyst, y mae'r pethau a adroddir ganddo am benaethiaid y gwledydd yn ei ddydd, a'i farn ar eu cymeriadau, yn werthfawr. Fel Gerallt Gymro yntau, ni phetrusai chwaith feirniadu'r Eglwys, ac yn enwedig yr urddau mynachaidd, yn bur hallt. Edrydd hefyd nifer o storïau am Gymru, ac y mae'n ddiddorol ar Gruffudd ap Llywelyn [q.v.]. Nid oes ddadl nad oedd Map yn ysgolhaig da; rhifodd M. R. James gryn ddeugain o feirdd a llenorion Lladin, o'r cyfnod clasurol a chyfnod y Tadau, y mae dyfyniadau neu atseiniau ohonynt yn y De Nugis — heb sôn am yr adnabyddiaeth drwyadl o'r Beibl a ddengys. Eto, afrwydd ac anodd yw ei arddull Ladin (o bosibl mai ar lygredd ein llawysgrif y mae peth o'r bai), ac ni ddeil ei gymharu â Lladin rhugl Gerallt Gymro.
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.