MARC, SIARL (1720-1795), Tŷmawr , Bryncroes , Llŷn , pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a phrydydd.
Ef oedd y pennaf o gryn lawer o ‘gynghorwyr’ ei wlad wedi ei dröedigaeth tua'r flwyddyn 1741. Tybir mai saer coed oedd wrth ei grefft. Symudodd ei gartref deirgwaith neu bedair cyn myned i fyw yn fferm Tŷ Mawr, Bryncroes. Dyma a ddywedir amdano gan Robert Jones, Rhoslan [q.v.] yn Drych yr Amseroedd: ‘Yr oedd yn ŵr o synwyrau cryfion, ac yn gadarn yn wir athrawiaeth, a'i ddoniau yn eglur i draddodi ei genadwri. Yr oedd yn barchus yn ei ardal, yn dderbyniol gan yr eglwysi.’ Nid rhyfedd oedd i'r fath un ennill iddo'i hun le amlwg ym marn ei gydnabod. Er ei natur hynaws cafodd brofi erledigaeth, ond daliodd yn gadarn a diysgog i bregethu ac arolygu'r seiadau yng ngwlad Llŷn. Daeth y Tŷ Mawr yn fan cyfarfod i'r crefyddwyr, ac yn y flwyddyn 1752 fe adeiladwyd ar dir gerllaw y ffermdy y capel cyntaf i'r Methodistiaid yn sir Gaernarfon. Bu am rai blynyddoedd yn niwedd ei oes yn ddall. Bu f. 17 Mai 1795 yn 75 mlwydd oed. Am ei waith fel emynydd gw. J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid.
Llyfryddiaeth:
- Drych yr Amseroedd (ail arg.), 184;
- Drys., 1901, 394;
- Cylch. Cymd. Hanes M.C., xxi, t. 46;
- T. Richards, Tŷ Mawr Llŷn—Deucanmlwydd Hanes yr Achos, 1948, 13.
Awdur:
Y Parch. Richard Thomas, B.A. (1872-1950), Caernarfon