MAREDUDD ab OWAIN ap HYWEL DDA (bu f. 999), brenin Deheubarth.
Dilynodd ei dad oedrannus fel unig reolwr Deheubarth yn 986 a llwyddo yn y flwyddyn honno i wneuthur yr hyn y llwyddasai ei dad i'w wneuthur, sef aduno Gwynedd a Deheubarth trwy holl gyfnod ei deyrnasiad. Er gwaethaf anghytundeb teuluol gwnaeth argraff ffafriol ar ei gyfoeswyr oblegid ei arweiniad cryf a diofn yn erbyn y Saeson a'r Daniaid; gelwir ef yn y croniclau — ‘clotvorussaf vrenin y Brytanyeit.’ Efallai fod ei hawl bennaf i enwogrwydd yn gorffwys ar ei berthynas â Gruffudd ap Llywelyn; merch i Faredudd oedd Angharad, mam Llywelyn.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth