MAREDUDD ab OWAIN ab EDWIN (bu f. 1072), brenin Deheubarth.
Perthynai i'r bumed genhedlaeth ar ôl Hywel Dda ac yr oedd yn gyfyrder, yn y llinach hynaf, i Rys ap Tewdwr [q.v.]. Pan gwympodd Gruffudd ap Llywelyn [q.v.] yn 1063, adferwyd yr hen frenhiniaeth o dan ei arweiniad ef. Yr oedd cyfnod ei deyrnasiad yn cydredeg â thrawiad cyntaf y goncwest Normanaidd ar Ddeheudir Cymru. Wedi ymdrech fer ac unochrog, cydymddug â choncwest tiroedd y goror yng Ngwent a gwobrwywyd ef â thiroedd yn Lloegr; yn 1070 y bu hyn. Ddwy flynedd wedi hynny lladdwyd ef gan gyd-dywysog wrth ymladd ar lannau afon Rhymni. Gadawodd un mab, Gruffudd, a fu'n byw'n alltud ar diroedd Seisnig ei dad hyd nes y lladdwyd ef wrth iddo geisio adennill ei dreftadaeth oddi ar law Rhys ap Tewdwr.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth