MAREDUDD ap CYNAN ab OWAIN GWYNEDD (bu f. 1212).
O 1173 hyd 1194 yr oedd yn arglwydd Eifionydd a rhan o Ardudwy — ffaith a nodwyd gan Gerallt Gymro pan aeth trwy'r ardal yn 1188. Derbyniodd Feirionnydd hefyd gan ei frawd Gruffudd (yn 1194, mae'n debyg) pan rannodd hwnnw ffrwyth buddugoliaeth yng Ngwynedd gyda'i gefnder Llywelyn I; yr oedd gyrfa gynnar Llywelyn yn ddyledus i raddau helaeth i'r cymorth a roes meibion Cynan iddo. Pan fu Gruffudd f. yn 1200 daeth Maredudd i feddiant o Lŷn, eithr fe'i cymerwyd oddi arno yn 1201 am frad tybiedig yn erbyn Llywelyn. Yn 1202 cymerwyd ei diroedd eraill oddi arno eithr adferwyd Meirionnydd, o leiaf, i'w deulu — gw. Llywelyn Fawr a Llywelyn Fychan. Yr oedd yn gydsylfaenydd (yn 1198 neu 1199) abaty Sistersaidd Cymer. Canwyd ei farwnad gan Brydydd y Moch [q.v.].
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth