MAREDUDD ap GRUFFUDD ap RHYS (1130 neu 1131-1155), tywysog Deheubarth;
mab hynaf Gruffydd ap Rhys a Gwenllian, merch Gruffudd ap Cynan. Chwe mlwydd oed oedd pan fu ei dad farw. Daeth i amlygrwydd pan oedd yn 16 oed wrth gynorthwyo ei hanner-brawd, Cadell, i ymlid y Normaniaid o Geredigion ac wrth amddiffyn caer Caerfyrddin a gymerasid ychydig yn gynt. Yn 1151 chwaraeodd ran flaenllaw yn y gorchwyl o ymlid gwyr Gwynedd yn ôl y tu hwnt i afon Ddyfi; yn yr un flwyddyn cwympodd baich arwain yn y De ar ei ysgwyddau oblegid anallu Cadell. Bu f. bedair blynedd yn ddiweddarach yn yr oed cynnar o 25, eithr wedi ennill iddo'i hun enw ardderchog mewn rhyfel a heddwch a chan drosglwyddo ei faich i frawd iau — yr arglwydd Rhys [q.v.] wedi hynny.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth