Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MAREDUDD ap RHYS GRYG (bu f. 1271), tywysog Deheubarth; mab iau Rhys Gryg [q.v.]. Ar y cyntaf, yng ngogledd-ddwyrain Ystrad Tywi (gan gynnwys castell Llanymddyfri) y gorweddai ei gyfran ef o diroedd yr arglwydd Rhys [q.v.]; yn ddiweddarach ychwanegwyd yn fawr at ei diroedd, a daethant i gynnwys y wlad o gylch castell Dryslwyn. Oherwydd y gydymgeisiaeth rhyngddo a'i frawd, Rhys Mechyll, ac, yn ddiweddarach, rhyngddo a mab hwnnw, sef Rhys Fychan o Ddinefwr [q.v.] [Ni chafwyd erthygl], cafodd ei anfon ymaith o'r De. Cafodd ddinas noddfa yn y Gogledd, bu gyda Llywelyn yng nghyrchoedd llwyddiannus 1256, a chael yn dâl am ei gymorth diroedd o gylch Llanbadarn ac yng nghantref Buellt. Cymerth ran flaenllaw ym muddugoliaeth y Cymry yn y Cymerau (1257), eithr gan i Rys Fychan ddyfod drosodd i bleidio'r Cymry yng nghwrs y frwydr tueddodd cydymdeimlad Maredudd tua'r ochr arall cyn gynhared â mis Hydref 1257. Serch iddo gymryd rhan yn yr wrogaeth gyffredinol i Lywelyn yn gynnar yn 1258, ac yn y cytundeb â Sgotland ym mis Mawrth, trosglwyddodd ei wrogaeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn i frenin Lloegr. Bu'r weithred hon yn achos prawf nodedig, y cyntaf o'i fath yng Nghymru — ar 28 Mai 1259 cyhuddwyd ef o deyrnfradwriaeth gerbron cyngor o arglwyddi Cymreig, fe'i condemniwyd, a'i garcharu am gyfnod yng nghastell Cricieth. Yr oedd telerau ei ymgymodi â Llywelyn yn 1261 yn llym, eithr talwyd am ei wasanaeth i'r brenin trwy i hwnnw achub (a hynny o fwriad) ei wrogaeth yn nhermau cytundeb Trefaldwyn (1267). Yn 1270 caniatawyd i Lywelyn gael yr wrogaeth honno. Bu Maredudd f. 27 Gorffennaf 1271 yn y Dryslwyn a chladdwyd ef yn abaty Tŷ-gwyn-ar-Daf.

Llyfryddiaeth:

  • Hist. W.;
  • Ancient Correspondence;
  • Littere Wallie.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth