Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MAREDUDD ap RHOSER (fl. c. 1530), bardd; brodor o Ddeheudir Cymru, y mae'n debyg. Mynnai ‘Iolo Morganwg’ ei gysylltu â Meisgyn (Miskin) ym Morgannwg, ond nid oes unrhyw dystiolaeth o blaid hynny. Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith awdl serch, awdl foliant gwlad Euas, awdl farwnad Syr Charles Herbert, cywydd i gymodi Wiliam Herbert o Colbrwc â Wiliam Sion ap Rhoser o'r Wernddu, a chywyddau i William Evans, canghellor a thrysorydd Llandaf. Cyfeiria Dafydd Benwyn, yn ei farwnad i Faredudd, at ei farddoniaeth i William Evans.

Llyfryddiaeth:

  • N.L.W. MSS. 4710, 6511, 13061, 13068, 13072, 13167;
  • G. J. Williams, Tradd. Llen. Morgannwg, 84.

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni