Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MARGED vch IFAN ’ (1696-1801?), ‘cymeriad’. Clywir gyntaf amdani yn nyffryn Nantlle (W. R. Ambrose, Hynafiaethau Nant Nantlle, 59), yn cadw tafarn y Telyrniau gerllaw'r Gelli, ym mlodau gwaith copr Drws-y-coed, tua chanol y 18fed g. Gallai, meddid, wneud telyn a ffidil, a chanu'r naill a'r llall i'w chwsmeriaid a ddawnsiai o'i chwmpas. Wedyn, symudodd i Benllyn ar gwr isaf Llyn Padarn; ei phrif waith yno oedd cludo'r mwyn copr o droed yr Wyddfa mewn cwch i ben isa'r llyn. Ymwelodd Thomas Pennant â'i thŷ yn 1786, ond yr oedd hi oddi cartref ar y pryd. Edrydd Pennant (Tours in Wales (arg. 1883), ii 320-1) bethau rhyfeddol amdani; cadwai ddwsin neu ragor o gŵn, a daliai fwy o lwynogod mewn blwyddyn nag a ddaliai'r helwriaethau mewn deg; medrai'r hen alawon a chanai hwy ar y ffidil; yr oedd yn saer coed da, a gwnâi ei chychod ei hunan; yn of, ac yn pedoli ei cheffylau; ac yn grydd. Pan oedd yn 70, gallai eto ymaflyd codwm ag undyn. Terfyna Pennant: ‘Yn y diwedd rhoes ei llaw i'r mwyaf merchetaidd o'i hedmygwyr’ — chwanega'r Athro W. J. Gruffydd (Hen Atgofion, 88), ar sail traddodiad a glywyd gan ei nain, mai Rhisiart Morys oedd ei enw, a bod Marged wedi rhoi dwy gurfa ofnadwy iddo; ar ôl y gyntaf, fe ddaeth yn ŵr iddi, ar ôl yr ail fe ddaeth yn Fethodist, yn wir ‘yn un o arweinwyr pennaf Methodistiaeth y plwyf’; eithr yn ôl W. R. Ambrose (loc. cit.), William ap Rhisiart oedd enw'r gwron hwn. Dywed Ambrose hefyd iddi f. yn 1788, yn 92 oed. Ond yn ôl y Cambrian Travellers Guide (a ddyfynnir gan W. Hobley, Hanes Meth. Arfon, iv, 22), bu f. yn 1801, yn 105 oed — sylwer fod y ddwy stori'n cytuno (ac yn cytuno â Pennant) ynghylch y flwyddyn y ganed hi. Cyfansoddodd rhyw brydydd o Sais linellau i'w dodi ar garreg ei bedd — gw. hwy yn llyfr Ambrose.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.