Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MARKS, DAVID (1788-1871), cerddor; g. yn 1788 ym mhlwyf Cilrhedyn, sir Gaerfyrddin. Saer maen ydoedd wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn adnabyddus fel cerddor, a gwnaeth wasanaeth mawr trwy fynd oddi amgylch i gynnal dosbarthiadau cerddorol. Cyfansoddodd amryw o donau; ceir ‘Cannon Street’ a ‘Manchester’ yn yr Haleliwia Drachefn, 1855. Bu f. 3 Hydref 1871 yn Ffynnon-drain, plwyf Eglwys Newydd, ger Caerfyrddin.

Llyfryddiaeth:

  • M. O. Jones, Byw. Cerdd. Cymr.;

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn