Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MARSHAL (TEULU), ieirll Penfro , etc.



WILLIAM MARSHAL ( I ) ( 1146? - 1219 ), rhaglaw Lloegr ,

oedd y cyntaf o'r teulu a fu'n iarll Penfro a Striguil . Mab ydoedd i John Fitz Gilbert (‘ John the Marshal ’) a'i ail wraig Sibyl , chwaer Patrick de Salisbury , iarll cyntaf Wiltshire . Yn 1189 rhoddwyd Isabel , iarlles Striguil a Phenfro , merch Richard de Clare , yn wraig iddo gan y brenin Rhisiart , a thrwy'r briodas hon fe'i dyrchafwyd i safle uchel fel tirfeddiannwr yn Lloegr , Iwerddon , a Normandi yn ogystal ag ym Mhenfro a Gwent . O hyn allan bu ef, a'i feibion ar ei ôl, â dylanwad enfawr ganddynt ar gwrs hanes politicaidd a milwrol Cymru a'r gororau. Yn ystod rhyfel Rhys ap Gruffydd yn erbyn Normaniaid Deheudir Cymru yn 1192 , efe oedd un o arweinwyr yr ymgyrch a ryddhaodd gastell Abertawe ac achub Gŵyr rhag y Cymry ; cododd arian hefyd ar gyfer yr ymladd. O'i benodi'n geidwad castell Aberteifi yn 1202 gan y brenin John , tyfodd ei awdurdod pwerus yn y gororau. Yn 1204 enillodd gastell Cilgerran yn Emlyn — arglwyddiaeth yr oedd ganddo hawl iddi — oddi wrth Faelgwn ap Rhys , a chyfyngu rheolaeth y tywysog i gyffiniau Ceredigion . Tra parhaodd y gynnen a fu rhyngddynt yn 1207-11 , cymerodd y brenin gastell Aberteifi o ddwylo William Marshal a'i gyflwyno i William de London yn 1207 . Ond yn 1211 galwodd y brenin arno eto i'w gynorthwyo ynglŷn â'r ymgyrch yn erbyn y Cymry ac adferwyd iddo ei gestyll yn Lloegr a Chymru . Yn y flwyddyn ddilynol bu'n ymladd o blaid y brenin yn erbyn Llywelyn ap Iorwerth [q.v.] . Erbyn hyn yr oedd y brenin ac yntau ar delerau cyfeillgar; ar 19 Hydref 1213 adferwyd castell Hwlffordd iddo ac yn 1214 cyflwynwyd iddo gestyll brenhinol Aberteifi , Caerfyrddin , a Gŵyr . Efe oedd prif gynrychiolydd y brenin yn Neheudir Cymru yn ystod ymryson y blynyddoedd hyn a phenodwyd ef yn bencadfridog barwniaid teyrngar y gororau yn erbyn Llywelyn ap Iorwerth a'r tywysogion eraill a oedd mewn cynghrair â barwniaid gwrthryfelgar teyrnas y brenin John . Ni bu'n llwyddiannus iawn yn amddiffyn ei diroedd a'i gestyll yn Nyfed pan ymosododd Maelgwn ap Rhys a'i nai, Rhys Ieuanc , arnynt yn 1215 . Daeth y rhyfela i ben gyda Chytundeb Caerwrangon ( Mawrth 1218 ) ac er mwyn sicrhau heddwch trwy'r deyrnas caniataodd William Marshal i Lywelyn ap Iorwerth fod yn geidwad cestyll brenhinol Aberteifi a Chaerfyrddin , ond daliodd ei afael ar Gaerlleon a enillasai oddi wrth Morgan ap Hywel [q.v.] yn 1217 . Bu'n gymwynaswr i abatai Tintern , Penfro , a Pill , a chyflwynodd siartr i dref Hwlffordd . Bu f. 15 Mai 1219 .


Dilynwyd ef gan WILLIAM MARSHAL ( II ) , y cyntaf o'i bum mab a fu'n ieirll Penfro yn eu tro. Yn 1220 ymosodwyd ar ei dreftadaeth ef yn Nyfed gan Lywelyn ap Iorwerth a gwynasai fod deiliaid yr iarll yn gormesu ar y Cymry er gwaethaf y cadoediad. Ar ôl anfon apêl i'r brenin gwnaed cytundeb rhyngddynt. Yn 1223 ymddialodd yr iarll ar Lywelyn pan ddaeth â byddin o Iwerddon i ailgymryd Aberteifi a Chaerfyrddin a hefyd Emlyn , a gorfu i'r tywysog ddyfod i gytundeb. Penodwyd yr iarll yn gwnstabl cestyll Aberteifi a Chaerfyrddin a bu'r cestyll yn ei ddwylo hyd 1226 . Cafodd gymorth Cynan ap Hywel ap Rhys yn y brwydro hwn, ac am ei wasanaeth rhoddodd yr iarll Emlyn ac Ystlwyf iddo. Parhaodd Caerlleon yn ei feddiant hyd ddiwedd ei oes er gwaethaf yr ymryson a fu rhyngddo â'r brenin a Morgan ap Hywel ynglŷn â'i hawliau yno. Yn 1228 cymerodd ran yn rhyfelgyrch arglwyddi'r gororau yn erbyn Llywelyn . Bu f. Ebrill 1231 .


Dilynwyd yntau yn yr iarllaeth gan ei frawd RICHARD MARSHAL (bu f. 1234 ), arweinydd y barwniaid a fu'n gwrthwynebu Harri III a'i gynghorwyr estronol. Daeth terfyn ar y brwydro parhaus rhwng y Marshaliaid a thywysog Gwynedd , a ffurfiwyd cynghrair rhyngddynt er gwrthsefyll byddin y Goron yn rhyfel y gororau yn 1233-4 . Ar ddechrau'r rhyfel enillodd y brenin Frynbuga oddi wrth Richard ond sefydlwyd cadoediad byr ar 6 Medi 1233 . Pan wrthododd Richard adfer Caerlleon i Forgan ap Hywel ni ollyngai'r brenin ei afael ar Frynbuga . Ar 15 Hydref ailddechreuodd y rhyfel ac ymunodd Llywelyn â'r iarll . Adenillwyd Brynbuga , ac ar ôl cydweithrediad rhwng eu byddinoedd yn nyffryn Wysg syrthiodd nifer o gestyll, gan gynnwys Abergafenni , i ddwylo'r iarll . Ymosodwyd ar y brenin yn Grosmont c. 17 Tachwedd a gorfu iddo gilio i Henffordd . Gorchfygwyd ei fintai hefyd ger Trefynwy . Yn Ionawr 1234 bu Richard a Llywelyn wrthi'n diffeithio'r gororau . Ar ôl y buddugoliaethau hyn croesodd Richard i Iwerddon , ac ym mis Mawrth penderfynodd y brenin alw am gadoediad. Ar 15 Ebrill bu Richard f. yn Iwerddon .


Derbyniwyd ei frawd a'i olynydd, GILBERT MARSHAL (bu f. Mehefin 1241 ), yn ffafriol gan Harri III , ac ar 9 Rhagfyr cyflwynwyd iddo gestyll a threfydd Caerfyrddin ac Aberteifi . Yn 1235 rhoddwyd Morgannwg yn ei ofal yn ystod maboed yr etifedd, a chafodd hefyd arglwyddiaeth Caerfyrddin . Cadwodd Forgan ap Hywel [q.v.] allan o'i dreftadaeth yng Nghaerlleon , ac yn 1236 dug gastell ym Machen oddi wrtho am ysbaid. Bu'n gymwynaswr i abaty Tintern ac ysbyty gwahangleifion Mair Magdalen yn Hwlffordd .


Ei olynydd oedd WALTER MARSHAL (bu f. 24 Tachwedd 1245 ). Anfonwyd ef gan ei frawd, yr iarll Gilbert , i gryfhau amddiffynfa Aberteifi yn 1240 ; cymerodd hefyd dros ei frawd diroedd yn perthyn i arglwyddiaeth Caerfyrddin — cymydau Ystlwyf ac Emlyn-uwch-Cuch — ac yna cyflwynodd yr iarll hwy i Maredudd ap Rhys Gryg . Ar ôl etifeddu'r iarllaeth ( 1234 ) nid ymddengys iddo fod yn flaenllaw yng Nghymru .


Bu ANSELM MARSHAL , yr olaf o feibion William Marshal y rhaglaw , f. yn Rhagfyr 1245 cyn ei urddo'n iarll Penfro . Fel ei frodyr yr oedd yn ddiblant.

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • The Complete Peerage , 1910–40 , x, 353-76;
  • A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest ;
  • S. Painter , William Marshal, knight-errant, Baron and Regent of England , Baltimore, 1933 (Baltimore, 1932 );
  • Calendar of Ancient Correspondence concerning Wales , 1935 (gol. J. G. Edwards ), 2-5, 12-3, 29-30, 34, 36, 48, 51;
  • Littere Wallie , 1940 (gol. J. G. Edwards ), 38-9;
  • R. F. Walker , ‘Richard Marshal and the Rising of 1233-4’ (traethawd M.A., Prifysgol Cymru, 1950 );
  • K. Norgate , The Minority of Henry III , Llundain, 1912 , 1912 ;
  • F. M. Powicke , King Henry III and the Lord Edward the community of the realm in the thirteenth century , Rhydychen, 1947 , 1947 .

Awdur:

Dr Bertie George Charles, Ph.D., (1908-2000), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54