Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MARSH, RICHARD (1710?-1792), llyfrwerthwr ac argraffydd yn Wrecsam . Priododd, 12 Chwefror 1746-7, Mary Hurst, Wrecsam; disgrifir y priodfab yng nghofnod y briodas yn ‘writing master.’ Yr oedd yn gwerthu llyfrau yn 1753; yn 1756-7 yr oedd yn un o wardeiniaid plwyf Wrecsam. Dywed A. N. Palmer (Hist. of Wrexham) a William Rowlands (Llyfryddiaeth y Cymry) iddo ddechrau argraffu cyn hynny, eithr dangosodd Ifano Jones (Hist of Printing and Printers in Wales) nad oes enghreifftiau dyddiedig o'i waith hyd 1772; e.e. Cyfarwyddiad i Fesurwyr a Cydymaith i'r Allor. Argraffodd lawer o lyfrynnau a baledi. Bu f. 24 Mai 1792 a'i gladdu ym mynwent eglwys Wrecsam.

Dilynwyd ef gan ei fab, JOHN MARSH (1747-1795), a oedd yn grefftwr celfydd. Y mae'n debyg i'r mab fod yn cynorthwyo'r tad am rai blynyddoedd cyn i hwnnw farw; e.e. fe'i ceir yn rhoddi tystiolaeth yn y cyngaws cyfreithiol yn erbyn W. Davies Shipley, deon Llanelwy [q.v.], ynglŷn â chyhoeddi pamffledyn, 1783. Dwy enghraifft o waith argraffu da a wnaethpwyd gan John Marsh ydyw Philip Yorke, Tracts of Powys, 1795, a William Griffiths, Practical Treatise on Farriery (ail arg. 1795). Fel ei dad o'i flaen, bu yntau'n gwasnaethu fel warden 1794-5. Bu f. 11 Hydref 1795 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Wrecsam.

Dygwyd y busnes ymlaen gan M. a S. MARSH, a argraffodd lyfr John Thomas, Annerch Ieuengctyd Cymru, yn 1795. Cyn pen y flwyddyn honno, fodd bynnag, daethai'r busnes yn eiddo John Painter.

Llyfryddiaeth:

  • At y cyfeiriadau a roddwyd eisoes ychwaneger J. H. Davies, Bibliog. Welsh Ballads.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth