MARSDEN, THOMAS (1802-1849), clerigwr ac awdur;
g. yn 1802 (neu 1801) yn fab i David Marsden, a oedd yn cloddio mwyn gerllaw Llanbedr-pont-Steffan. Bu yng Ngholeg Dewi Sant; urddwyd yn 1827; bu'n gurad Llan-y-crwys 1827-9, Tir-abad 1829-31, a Llan-y-crwys drachefn 1831-8. O 1838 hyd ei ymddiswyddiad yn 1840, bu'n ficer Brymbo; ac o 1843 hyd ei farw yn rheithor Llanfrothen. Bu f. 24 Hydref 1849, yn ei 48 flwydd, meddai ei faen coffa. Cyhoeddodd yn 1838 Chwech ar Hugain o Bregethau; yn 1843 gyfrol arall o 26 pregeth; ac yn 1848 gyfrol o emynau a phrydyddiaeth arall, dan y teitl The Poet's Orchard — dywedir yn honno iddo hefyd gyhoeddi llythyr yn erbyn uno esgobaethau Bangor a Llanelwy.
Llyfryddiaeth:
- Bangor MS. 6454 yn Llyfrgell Coleg y Gogledd.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.