MARTHA'R MYNYDD (fl. tua 1770), twyllwraig

Ffugenw: Martha'r Mynydd
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: twyllwraig
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Yr oedd yn byw mewn bwthyn ar fynydd Llanllyfni, yn wraig 'ymadroddus, rithgrefyddol.' Llwyddodd i gael gan lawer yn yr ardal gredu bod ganddi gydnabyddiaeth â 'rhyw dylwyth a elwid Anweledigion,' cenedl luosog a mawr ei chyfoeth a ymrodiai ym mhobman yn y fro, mewn ffair a marchnad, heb i neb ei chanfod. Yn neilltuol, yr oedd gŵr bonheddig o'r genedl hon, o'r enw 'Ingram,' yn byw gyda'i ferch mewn plasty hardd (ond anweledig) ar y mynydd, yn agos i'w thŷ hi; byddai 'Miss Ingram' yn wir ar brydiau'n ymddangos i fodau meidrol, mewn gwisg wen hyd ei thraed, a byddai ei thad yn pregethu, yn nhrymder y nos, i gynulliadau yn nhywyllwch bwthyn Martha. Odid nad ei gŵr hi ei hunan oedd 'Mr. Ingram'; yn bur sicr, hyhi oedd 'Miss Ingram,' oblegid rhywdro pan oedd Martha wedi llosgi ei throed, sangodd rhyw amheuwr cyfrwys ar droed 'Miss Ingram' yn ystod un o'r cyrddau cyfrin hyn, ac adnabu lais Martha yn ei dolur - ond bu raid iddo ffoi rhag llid y gwrandawyr cryfach eu hygoeledd. Eto, cyn pen hir ymledodd yr amheuaeth, ac aeth yr anweledigion yn fwy anweledig fyth. Edifarhaodd Martha wedyn, a diweddodd ei hoes yn aelod gyda'r Methodistiaid yn Llanllyfni.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.