MASON, RICHARD (1816?-1881), argraffydd ac awdur, Dinbych-y-pysgod ;
tybir mai brodor o sir Henffordd ydoedd. Bu'n dilyn galwedigaethau amaethyddol ar un adeg, ond gymaint oedd atyniad Dinbych-y-pysgod iddo fel y penderfynodd gartrefu yno, a bu'n un o aelodau mwyaf gweithgar a defnyddiol yr awdurdodau lleol am gyfnod o 30 mlynedd. Yn 1850 ymgymerodd ag argraffu a chyhoeddi Archaeologia Cambrensis ar ei gyfrifoldeb ei hun, ond ar yr amod ei fod yn derbyn hanner y tanysgrifiad blynyddol am bob rhifyn a ddosberthid i'r aelodau. Nid yw'r rhestr tanysgrifwyr am y flwyddyn honno yn cynnwys 130 o enwau i gyd. Yn 1855 aeth y gymdeithas ei hunan yn gyfrifol am y cyhoeddi ac yntau'n parhau i argraffu iddynt. Tua'r amser hwn, fel anturiaeth bersonol, dechreuodd gyhoeddi'r Cambrian Journal, a gwnaeth hynny o 1854 hyd 1864. Ef oedd awdur Guide to Tenby and its Neighbourhood, 1852, llyfr poblogaidd y bu sawl argraffiad ohono. Cyhoeddodd hefyd, yn ddienw, Tales and Traditions of Tenby, 1858. Bu f. 26 Rhagfyr 1881 yn ei 65 flwydd.
Llyfryddiaeth:
- Arch. Camb., 1882;
- Not. W.;
- E. Laws a E. H. Edwards, Church Book of St. Mary, Tenby.
Awdur:
Thomas Isfryn Jones, Aberystwyth