Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MATHEW ap LLYWELYN GOCH (fl. c.1360-1400?), bardd. Cadwyd o leiaf ddau gywydd o'i waith mewn llawysgrifau, sef cywyddau i ddau ŵr o Ogledd Cymru, Wiliam Sion o Benarth ac Olfyr ap Tomas o Langedwyn.

Llyfryddiaeth:

  • Bodewryd MS 1 (451);
  • Brogyntyn MS. 2 (353b);
  • Jes. Coll. MS. 17 (464);
  • Llanst. MSS. 118 (487), 133 (135);
  • Pen. MSS. 87 (19), 100 (425);
  • Blackwell;
  • Em. W.

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni

Atodiadau a chywiriadau:

MATHEW ap LLYWELYN GOCH (Bywg., 583) Cywirer y fl. i ganol y 16eg ganrif. O'r Neuadd-wen yn Llanerfyl yr oedd Olfyr ap Tomas. Ei wraig oedd o Langedwyn.

Awdur:

Dr Enid Pierce Roberts, M.A., D.Litt., Bangor