MATHIAS, JOHN GORONWY (1842-1895), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a llenor;
g. ym Manceinion, 1842, ond symudodd yn ifanc i'r Penrhyncoch, sir Aberteifi, ac yno y bedyddiwyd ef a'i godi i bregethu. Aeth i Aberdâr yn 1873 ac ymaelodi yn yr Ynys-lwyd, ac oddi yno yn 1874 i gwm Rhymni a chymryd gofal eglwys fechan Bethania, Troedrhiw'r-fuwch. Ymsefydlodd tua 1875 yn Ramah ac Errwd, Brycheiniog, ac, yn 1881, yn Llansantffraid a Glyndyfrdwy; ymddeolodd tua 1887 a symud i fyw i Gorwen. Ailddychwelodd i'r weinidogaeth gyda'r Saeson ym Mhontlotyn yn 1893 ac yno y bu farw 18 Chwefror 1895 yn 53 oed. Claddwyd ef yn Errwd. Yr oedd yn llenor adnabyddus, a bu am beth amser mewn partneriaeth â T. Edmunds, argraffydd, Corwen. Ef oedd cychwynnydd a golygydd yr wyth rhifyn o'r Llenor Cymreig a gyhoeddwyd yng Nghorwen rhwng Ionawr 1882 a Hydref 1883; cyhoeddodd hefyd Yr Ystorgell, Y Gorsen, 1872; Yr Eginyn, 1874; Y Dywysen, 1874; ac Y Dywysen Aeddfed, 1875 — i gyd yn ôl pob tebyg at wasanaeth yr ysgol Sul a chyfarfodydd dirwest; a bu'n olygydd ac yn rhannol yn awdur Hanes Bywyd C. H. Spurgeon, 1892. Sgrifennai dan y ffugenw ‘Goronwy Ddu.’
Llyfryddiaeth:
- Ser. Cymru, 29 Mawrth 1895;
- Llawlyfr Bed., 1896;
- Not. W.;
- Asaph (Em. W.);
- Byr-Hanes Cymry Manceinion;
- Cardiff Catalogue.
Awdur:
Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth