Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MATHEW (TEULU), Llandaf , Radyr , a Chastell-y-mynach , sir Forgannwg . Bu aelodau'r teulu hwn yn dal swyddi stiwardiaid a senesgaliaid yn ystod y 14eg g. dros arglwyddi Seisnig a oedd yn absennol o Gymru; yr oeddent o'r un llinach â Lewisiaid y Van, Caerffili [q.v.] ac yn deillio, yn ôl achau'r 15fed g., o Gwaethfoed Fawr, Ceredigion. Yr oedd Syr DAVID MATHEW (fl. 1428-84), mab i un o bleidwyr Owain Glyndŵr, yn un o ddibynwyr teulu Neville ac yn flaenllaw ym mhlaid y Iorcaid. O Syr David a'i wraig, Gwenllian Herbert, disgynnodd llinachau Llandaf a Radyr, dwy linach y bu cyd-briodi mynych yn eu hanes. Datblygodd dylanwad y llinach yn fawr wedi brwydr maes Bosworth o dan nawdd a swcr Syr Rhys ap Thomas [q.v.], a briododd Janet Mathew, eithr yr oedd ei ddylanwad yn lleihau ar ôl marw (1557) Syr GEORGE MATHEW Radyr, aelod seneddol a siryf.

Dynion eraill o bwys ym mywyd gwleidyddol Morgannwg oedd y brodyr Syr DAVID MATHEW (bu f. 1504), Sain Ffagan, a Syr WILLIAM MATHEW (bu f. 1528), Radyr, a'u cefnder Syr CHRISTOPHER MATHEW (bu f. 1527), Llandaf. Y mae cerfddelwau ar orwedd o Syr William a Syr Christopher a'u gwragedd, ac o'u tadcu y Syr David Mathew 1af, yn eglwys gadeiriol Llandaf. O deulu diweddarach Mathewiaid Llandaf, a fabwysiadodd y cyfenw Mathews tua chanol yr 17eg g., cododd un gŵr nodedig — THOMAS MATHEWS (1676-1751), Llandaff Court, ‘Vice-Admiral of the Red,’ pennaeth y lluoedd ym mrwydr Toulon, 1744, ac aelod seneddol sir Forgannwg, 1745-7. Pan fu ei ŵyr ef f. yn 1798, daeth y gangen hon o'r teulu i'w therfyn.


Yn wrthgyferbyniol i aelodau llinell Llandaf, a oedd yn frenhinwyr (eithr yn eithaf diymhongar felly) ac wedi hynny yn Chwigiaid, yr oedd aelodau llinell Radyr yn wastad, yn wleidyddol, ac weithiau yn bur weithredol, yn Gatholigiaid. Cafodd THEOBALD MATHEW (bu f. 1699), mab George Mathew (bu f. 1636), Radyr, a'i wraig Elizabeth, is-iarlles Thurles, faenor Thurles gan ei hanner-brawd, dug 1af Ormond; bu ei ddisgynyddion ef yn dal maenor Llandaf a thiroedd yng Nghymru ac Iwerddon. Yn 1783 cafodd FRANCIS MATHEW, a ddisgynnai'n bedwerydd o Theobald Mathew, ei greu yn arglwydd Llandaf ym mhendefigaeth Iwerddon. Bu ef f. yn Abertawe, 1806; cawsai ei wneuthur yn iarll Llandaf yn 1797. Ei fab ef oedd FRANCIS MATHEW (a fu f. 1833), ail iarll Llandaf (a'r iarll diwethaf); gwerthodd ef y stadau Cymreig i Syr Samuel Romilly yn 1818. Yr oedd Syr JAMES MATHEW (bu f. 1908), arglwydd farnwr Llys yr Apêl, yn chweched yn ei ddisgyniad o Theobald Mathew, Radyr. Disgynnai HENRY MATTHEWS (1826-1913), Q.C., a fu'n ysgrifennydd gwladol (Ceidwadwr), 1886-92, o deulu Ceidwadol tiriog a oedd â chysylltiad rhyngddo a llinell Radyr ac wedi ymsefydlu yn Belmont gerllaw Henffordd; crewyd ef yn is-iarll Llandaf yn 1895.


Sylfaenydd Mathewiaid Castell-y-mynach, Pentyrch, oedd ROBERT MATHEW, brawd Syr David Mathew. Sgwieriaid Ceidwadol oeddent hwy; cawsant, trwy briodas, stadau David Jenkins, Hensol [q.v.]. Daeth y llinell i ben gyda CECIL MATHEW a briododd (1708) Charles, yr arglwydd Talbot (o Hensol) 1af, arglwydd ganghellor. O'r gangen hon y disgynnodd TOBIE MATHEW (1546-1628) a ddewiswyd yn esgob Durham yn 1595, ac yn archesgob Caerefrog yn 1606, a'i fab Syr TOBIE MATHEW (1577-1655), gŵr o gylch y llys brenhinol a chyfieithydd Cyffesion S. Awstin.

Llyfryddiaeth:

  • G. T. Clark, Limbus Patrum, 1-37;
  • Cardiff Records (gol. J. Hobson Matthews), yn enwedig cyf. iii, iv;
  • Morganiae Archaiographia (Rice Merricke; gol. J. A. Corbett);
  • John Leland, The Itinerary in Wales (gol L. Toulmin Smith), 19, 21, 26;
  • D.N.B., Twentieth Century, i, 589-90; ii, 370-1.

Awdur:

Yr Archesgob David Mathew, Litt.D., F.S.A., (1902-76), Mombasa, Dwyrain Affrica / Llundain

Atodiadau a chywiriadau:

MATHEW (TEULU; Bywg., 582) Profodd ymchwil ddiweddar mai'r unig gainc sy'n aros, wedi peidio o'r llinell Wyddelig gyda marw Francis James, ail Iarll Llandaf yn 1833, a'i chwaer, y fonesig Elisabeth yn 1842, o ddisgynyddion Syr David Mathew a'i ŵyr Syr William Mathew, Radyr, yw'r un Gymreig. Drwy William Mathew o'r Eglwys Wen, mab Edmund Mathew, Radyr, siryf Morgannwg yn 1592 a brawd iau i'r George a sefydlodd y llinach Wyddelig, y rhed yr olyniaeth. Dywedir i William fod yn faer Caerdydd yn 1644. Ef a ddilynodd Syr Anthony Mansel fel llywodraethwr garsiwn Caerdydd dros Siarl I. Gwasanaethodd ei fab, y capten Thomas Mathew, gyda Syr Edward Stradling (Bywg., 671), o dan y Tywysog Rupert, a chymerwyd ef yn garcharor ar ôl brwydr Sain Ffagan. Yr oedd yn un o'r 11 swyddog a roddwyd ar y llong Admiral Crowther o dan ddedfryd i'w dienyddio. Saethwyd tri ohonynt ond llwyddodd Thomas Mathew i ddianc gydag eraill a marchogaeth i gastell Penfro a oedd yn dal yn nwylo'r Brenhinwyr.

Yn 1818, pan ryddhawyd etifeddiaeth ystadau'r teulu a'u gwerthu gan yr ail Iarll Llandaf, prynwyd darn bychan o faenor Llandaf gan Henry Mathew, Tŷ Mawr, yr Eglwys Wen, gor-ŵyr i'r Capten Thomas Mathew.

Heddiw, Hugh Pawley Mathew, Thunderley Hall, Saffron Walden, y deuddegfed yn llinach Syr William Mathew, Radyr, sy'n dwyn yr arfau a gofnodwyd i'r teulu yng nghofwy'r herodron yng Nghymru yn 1530. (Y Coleg Arfau)

Awdur:

Hugh Pawley Mathew, Saffron Walden