MATHEWS, ABRAHAM (1832-1899); gweinidog, arloeswr, a llenor;
g. yn Llanidloes yn 1832. Bu yng Ngholeg Annibynnol y Bala dan M. D. Jones, 1856-9. Ordeiniwyd ef yn weinidog Horeb, Llwydcoed, Aberdâr, yn 1859, a bu yno bum mlynedd. Priododd yn 1863. Aeth i'r Wladfa gyda'r fintai gyntaf yn 1865, a llafuriodd yn galed yno fel gweinidog ac amaethwr weddill ei oes. Bu'n un o'r arweinwyr dycnaf yn y cyfnod cyntaf. Ymwelodd â Chymru a'r Unol Daleithiau yn 1874, a llwyddodd i gasglu mintai o'r naill le a'r llall i fentro i'r Wladfa. Yn ystod ei ymweliad â Chymru 1893-4 bu'n gofalu am eglwys Canton, Caerdydd, ac ysgrifennodd ei lyfr ar hanes cynnar y Wladfa, Hanes y Wladfa Gymreig (Aberdâr). Hwn yw'r llyfr tecaf a diogelaf ar hanes cynnar y Wladfa. Bu'n golygu'r Drafod 1896-9. Bu f. 1 Ebrill 1899, a'i gladdu ym mynwent Moreia; dadorchuddiwyd tabled i'w goffadwriaeth yn y capel hwnnw yn 1949.
Llyfryddiaeth:
- Y Dravod, Mai 1949;
- W. M. Hughes, Ar Lannau'r Camwy, 173;
- R. Bryn Williams, Lloffion o'r Wladfa, 23-5;
- R. Bryn Williams, Rhyddiaith y Wladfa, 22, 32-3.
Awdur:
Y Parch. Richard Bryn Williams, M.A., (1902-81), Rhuthyn / Aberystwyth