Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MATTHEWS, EDWARD (1813-1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur; g. 13 Mai 1813, yn New Barn ger Sain Tathan, Bro Morgannwg, mab Thomas ac Anne Matthews. Chwalwyd ei gartref pan oedd yn ieuanc ac ymfudodd y tad i America. Cafodd argyhoeddiad crefyddol o dan weinidogaeth David Morris [q.v.] o'r Hendre. Aeth i weithio i Hirwaun yn 1827 a dechreuodd bregethu yno yn 1830. Dychwelodd i'r Fro yn 1833 gan gartrefu ym Mhen-llin yn nhŷ Mrs. Truman, gwraig weddw a ddaeth yn briod iddo yn 1843. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1841; bu'n efrydydd yn Nhrefeca am dymor byr yn 1843. Aeth i fugeilio eglwys Penuel, Pontypridd, yn 1849; dychwelyd i'r Ewenni Isaf, ger Penybont-ar-Ogwr, yn 1852; symud i Gaerdydd yn 1864; trigiannu yn Nhresimwn o 1876 hyd 1883, a gorffen ei grwydro ym Mhenybont. Bu farw yno 26 Tachwedd 1892, a'i gladdu ym mynwent eglwys Nolton. Saif ei fri fel pregethwr yn uchel; dotiai'r cynulleidfaoedd ar ei arabedd yn nhafodiaith Bro Morgannwg; synnid hwy gan rym ei ddychymyg a'i arddull ddramatig, feiddgar; a dychrynid hwy gan ei floeddiadau annaearol. Ef oedd brenin y sasiwn am gyfnod hir ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd. Cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau dan olygiaeth D. M. Phillips yn 1927. Yr oedd yn awdur o fri hefyd. Ei waith mwyaf poblogaidd oedd Hanes Bywyd Siencyn Penhydd, a gyhoeddwyd yn llyfryn yn 1850. Llyfr tebyg iddo yw George Heycock a'i Amserau, 1867. Tynnodd lawer ar ei ddychymyg wrth eu llunio ill dau, a bu cryn ddarllen arnynt gan y werin. Ymddangosodd Bywgraffiad Thomas Richard [q.v.] yn 1863, ac yr oedd yn gyd-awdur Cofiant J. Harris Jones [q.v.], 1886. Golygodd ddwy gyfrol o bregethau Morgan Howells [q.v.] yn 1858 a 1869, a dwy gyfrol o bregethau Thomas Richard yn 1866-7. Ysgrifennodd lawer i'r Traethodydd, Y Drysorfa, a'r Cylchgrawn — cyhoeddwyd cyfrol o'i ysgrifau dan olygiaeth W. Llywel Morgan yn 1911. Arddull ymddiddanol, gwmpasog, oedd ganddo, ond y mae crebwyll a theithi gwir lenor ar ei waith, a cheir blas ar bob peth a ysgrifennodd.

Llyfryddiaeth:

  • D. G. Jones, Cofiant Edward Matthews, 1893;
  • J. J. Morgan, Cofiant Edward Matthews, Ewenni, 1922.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe