MATTHEWS, JOHN (1773-1848), tirfesurydd a gŵr cyhoeddus;
g. 1 Ionawr 1773, mab Edward Matthews o Benybont ger yr Wyddgrug. Ymgymerodd â gwaith mesur tir, ac erbyn 1811 enillasai le pwysig iddo'i hun gyda'r gwaith hwnnw yn y Gogledd. Yn 1819 penodwyd ef yn gomisiynydd ar gominoedd Arwystli, ac yn 1821 yn gomisiynydd a chanolwr ynglŷn â thir y Traeth Mawr, ger Porthmadog. Ym Mai 1823 symudodd i fferm Clydfanc, ger Llanidloes, ac, yn Rhagfyr 1828, i Aberystwyth. Gwnaethpwyd ef yn fwrdais yn Aberystwyth, a gwnaeth lawer o'i briod waith yn y dref. Ymddiddorodd hefyd yn natblygiad y gweithiau mwyn yng Ngheredigion ac mewn mannau eraill. Dengys ei ddyddiaduron ei fod yn deithiwr cyflym ac yn deithiwr mawr, a'i fod yn gyfarwydd â Gogledd a chanolbarth Cymru drwyddynt draw. Yr oedd hefyd yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; mynychai'r sasiwn bob cyfle a gâi, a thua diwedd ei oes gweithredai ar nifer o bwyllgorau cyfundebol. Bu f. 9 Ionawr 1848. Priododd Elin, merch Tros-y-wern, ger yr Wyddgrug, a daeth eu mab, JOHN MATTHEWS (1808-1870), yntau yn dir-fesurydd, yn siopwr, yn faer tref Aberystwyth, ac yn gyfaill agos i Lewis Edwards [q.v.] a Henry Richard [q.v.].
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth