MATTHEWS, MARMADUKE (1606-1683?), gweinidog a drowyd allan;
g. yn Abertawe, 1606, yn fab i Matthew Johnes, Nydfywch, Llangyfelach, a Mary ei wraig. Derbyniwyd ef yn All Souls, Rhydychen, 20 Chwefror 1623/4, a graddiodd yn B.A. 25 Chwefror 1624/5 ac yn M.A. 5 Gorffennaf 1627 (Foster, Alumni Oxon.). Yn 1636 yr oedd yn ficer Penmain yng Ngŵyr, a dangosodd dueddiadau Piwritanaidd annerbyniol gan esgob Tyddewi. Cychwynnwyd achos yn ei erbyn yn Llys yr Uchel Gomisiwn, ond ymfudodd ef i'r America. Dychwelodd yn 1658 ar gais y cyrnol Philip Jones [q.v.], a daeth yn weinidog S. John, Abertawe. Fe'i trowyd allan yn 1662. Tan yr ‘Act of Indulgence’ cymerodd drwydded i bregethu, gan ei alw ei hun yn Annibynnwr. Bu f. tua 1683. Efe oedd awdur The Messiah Magnified (London, 1659) a The Reconciling Remonstrance (London, c. 1670).
Mab iddo oedd LEMUEL MATTHEWS (1644-1705), archddiacon Down. Ymaelododd yn y brifysgol o Goleg All Souls, Rhydychen, 25 Mai 1661, ac wedyn daeth yn gaplan i Jeremy Taylor, esgob Down. Gwnaed ef yn archddiacon Down 2 Tachwedd 1674, ac fe'i hapwyntiwyd yn ganghellor Down a Connor yn 1690. Amheuwyd ei fod yn euog o droseddiadau eglwysig, a diswyddwyd ef gan gomisiwn brenhinol. Bu farw cyn i'w apeliadau mynych ddwyn unrhyw ffrwyth.
Llyfryddiaeth:
- Cylch. Ll.G.C., i, 3, t. 166;
- T. Rees, H.P.N.;
- Calamy, Account;
- Trans. Congl. Hist. Soc., v, 1911-12.
Awdur:
Y Parchedig Brifathro Robert Tudur Jones, D.Phil., (1921-98), Bangor