MAURICE, DAVID (1626-1702), clerigwr a chyfieithydd;
mab Andrew Maurice, deon Llanelwy. Yn ôl Browne Willis, bonheddwr o sir Amwythig oedd Andrew Maurice, ond yn ôl Wood (Athen. Oxon.), o sir Ddinbych. Dywed ‘Llyfr Silin’ a Walter Davies (‘Gwallter Mechain’) ei fod yn yr wythfed ach o Ieuan Gethin. Dywed Philip Yorke (Royal Tribes) ei fod yn perthyn i gangen ddiweddar o deulu Clenennau. Ond yn ôl D. R. Thomas, S. Asaph, pais arfau Cunedda Wledig oedd gan ei fab David Maurice, ac nid eiddo Owen Gwynedd nac eiddo Einion Efell. Ymaelododd David Maurice yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 3 Mehefin 1651, a graddio'n B.A. 1654/5, ac M.A. 1657, o'r Coleg Newydd. Daliodd y swyddi eglwysig canlynol: ficer Llangernyw, 1662; rheithor Cegidog S. George, sir Ddinbych, 1663; cylch-brebend yn Llanelwy, 1664; canon, 1666; ficer Llanasaph, sir Fflint, 1666; rheithor Gwytherin, 1675; ficer Abergele, 1684, Betws-yn-Rhos, 1684, a Llanarmon-yn-Iâl, 1696. Daliai y tair swydd olaf pan fu f., 1702. Claddwyd ef ym mynwent Betws-yn-Rhos, ac y mae beddargraff Lladin ar ei feddadail. Cyhoeddwyd ei achwyniad mewn perthynas â'r ‘Popish Plot’ yn The Information of J. Sergeant and D. Morris relating to the Popish Plot, 1681. Cyhoeddodd hefyd The Promised Reed; a sermon preach'd … for the support of weak Christians, 1700, a chyfieithiadau Cymraeg o ddau o weithiau Theophilus Dorrington o dan y teitlau, Arweiniwr cartrefol i'r iawn a'r buddiol dderbyniad o Swper yr Arglwydd, … 1700, a Cynffwrdd i'r gwan Gristion, neu'r gorsen ysig, 1702.
Llyfryddiaeth:
- C. Ashton, H. Llen. Gymr. (Ashton);
- N.L.W. MS. 9266;
- B.M. Cat. P.B..
Awdur:
John James Jones, M.A., (1892-1957), Aberystwyth