MAURICE, HENRY (1647-1691), clerigwr ac awdur;
g., os yw ei oedran ar ei dabled goffa yng nghapel Coleg Iesu (‘44’) yn gywir, yn 1647, ond yn ôl Foster (Alumni Oxon.), a ddywed mai 16 oed oedd pan aeth i'r Coleg, fe'i g. yn 1648. Yr oedd yn fab i Thomas Maurice, B.D., curad parhaol Llangristiolus, a'i wraig Sidney, ferch Henry Parry neu Perry [q.v.], awdur Egluryn Phraethineb; yr oedd felly'n un o hil Tuduriaid Penmynydd — gw. J. E. Griffith, Pedigrees, 106. O ysgol ramadeg Biwmares, aeth i Goleg Iesu yn Rhydychen, a graddio yn Ionawr 1667-8; etholwyd ef yn gymrawd yn 1670; cymerth ei radd D.D. yn 1683; ac yn 1691 penodwyd ef yn athro diwinyddiaeth i'r brifysgol. Yr oedd yn ffefryn, yn gaplan, ac yn gydymaith i Syr Leoline Jenkins [q.v.] hyd 1680, pan benodwyd ef yn gaplan i'r archesgob Sancroft. Ar wahân i ddal rheithoraeth segur Llandrillo-yn-Rhos o 1684 hyd 1691, ni bu ddim a fynnai â Chymru wedi cyrraedd oedran gŵr, felly digon yma fydd cyfeirio at yr ymdriniaeth â'i yrfa a'i wethiau yn y D.N.B. — yr oedd yn ddyn a ganmolid ar bob llaw am ei fuchedd a'i ysgolheictod; bu'n dadlau â Richard Baxter ynghylch rheidrwydd y drefn esgobol. Bu farw'n ddibriod, o'r parlys, 30 Hydref 1691.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B.;
- Y Gwladgarwr, 1840, 289-92.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.