Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MAURICE, MATHIAS (1684-1738), gweinidog Annibynnol ac awdur; g. yn 1684; mab i deiliwr o Landdewi Efelffre, sir Benfro, a theiliwr ei hunan, fel yr edliwir yn angharedig iddo gan Jeremy Owen [q.v.]. Ymaelododd yn eglwys Henllan Amgoed, ac aeth i Gaerfyrddin at William Evans [q.v.] i baratoi at y weinidogaeth; yno, mae'n debyg, yr oedd ar adeg yr ymraniadau cyntaf yn eglwys Henllan (1707-9). Yn yr ail ymraniad yno (1711) ymunodd Maurice a Henry Palmer [q.v.] ac eraill a aeth drosodd i Ryd-y-ceisiaid. Yn gynnar yn 1713 urddwyd ef yn weinidog Annibynnol Olney (Bucks.), ond ym mis Tachwedd 1714 galwyd ef i Rothwel (‘Rowel’), Northants., yn olynydd i Richard Davis [q.v.] — olyniaeth naturiol, pan gofiwn yr Uchel-Galfiniaeth a'r gred mewn hunan-lywodraeth gynulleidfaol ddiamod a arddelasai Maurice yn Henllan. Yn 1726, sgrifennodd draethawd bychan, Byr a chywir Hanes Eglwys Rhydyceished yn eu Nheulltuad o Henllan, trwy y Blynyddoedd 1707, 1708, 1709, a gyhoeddwyd fel atodiad i'w lyfr Y Wir Eglwys, yn 1727 (adargraffwyd ef gan D. M. Lewis yn Y Cofiadur, 1925, 41-9); ateb i hwn oedd pamffled Jeremy Owen, Golwg ar y Beiau, etc., 1732. Enwir gweithiau a chyfieithiadau Maurice yn Llyfryddiaeth y Cymry, dan 1711, 1720, 1727, 1733, 1734, 1759. Ei waith gwreiddiol mwyaf poblogaidd oedd Social Religion Exemplified, 1759, a oedd erbyn 1860 wedi mynd drwy saith argraffiad. Cyfieithwyd talfyriad y Dr. Edward Williams [q.v.] ohono yn Gymraeg, gan Benjamin Evans, Drewen [q.v.], yn 1797, a'r cwbl ohono gan Evan Evans, Nanty-glo [q.v.], yn 1862 — aeth y naill a'r llall i fwy nag un argraffiad. Bu Maurice farw yn Rothwell yn 1738 (ni wyddys yr union ddyddiad).

Llyfryddiaeth:

  • H.E.A.C., iii, 346-7;
  • D. M. Lewis yn Y Cofiadur, 1925, 22-49;
  • T. Richards yn Hist. Carms., ii (1939), 165-70.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.

Atodiadau a chywiriadau:

MAURICE, MATHIAS (Bywg., 588) Bu f. 1 Medi 1738; bu ei weddw Elizabeth f. 8 Hydref 1771, yn 73 oed. (Cofnodion y gynulleidfa yn Rothwell; gw. N. Glass, The Early History of the Independent Church at Rothwell (Northampton, 1871). (Ll.G.C. a Llyfrgell Coleg Bala-Bangor).

Atodiadau a chywiriadau:

MAURICE, MATHIAS (Bywg., 588) Bu f. 1 Medi 1738. Cyhoeddodd nifer o lyfrau Saesneg, yn eu plith Monuments of Mercy (1729), A modern question affirmed and approved (1739).

Awdur:

George Thomas Streather, Kettering, Northants