Mab hynaf Maurice ap Ellis a'i wraig (Ellen, ferch Syr John Puleston) oedd Syr William Maurice (1542-1622) [q.v.], a gymerodd yn wraig gyntaf, Margaret, ferch ac aeres John Wynn Lacon, Porkington (a elwir Brogyntyn yn awr), a Llanddyn, ac un o blant y briodas honno oedd y capten ELLIS MAURICE (1568-?), a fu'n ymladd dros y frenhines Elisabeth yn Iwerddon; aeres Ellis Maurice oedd Margaret, a briododd (1) John Jones, Wern, Penmorfa — gw. Wynne (Teulu) Peniarth, a (2) Ellis Anwyl, Parkie, sir Gaernarfon.
Dilynwyd Sir William Maurice yng Nghlenennau gan ei ŵyres, ELLIN MAURICE (1578-1626), aeres Clenennau, Porkington, a Llanddyn, merch William Wynn Maurice (a fu f. yn 1568, sef o flaen ei dad, Sir William Maurice; gwraig W. W. Maurice oedd Mary, ferch John Lewis, Chwaen, sir Fôn). Bu Ellin yn briod ddwywaith — (1) â John Owen, ysgrifennydd Syr Francis Walsingham a mab Owen ap Robert, Bodsilin, sir Gaernarfon, a (2), â Sir Francis Eure (bu f. 1621), prif farnwr cylchdaith gogledd Cymru. Trwy ei gŵr cyntaf, yr oedd yn fam i dri mab a phum merch. Y tri mab oedd y cyrnol Syr John Owen (bu f. 1666) [q.v.], y cyrnol Syr WILLIAM OWEN (bu f. 1670 neu 1671), Porkington, a fu'n amddiffyn castell Harlech dros y brenin Siarl I, a Maurice Owen, a gafodd diroedd yn sir Fôn gan ei fam. Aer y cyrnol John Owen oedd WILLIAM OWEN (claddwyd 30 Ionawr 1667/8), a briododd Catherine, unig blentyn Lewis Anwyl, Park, Llanfrothen, a gadael Syr ROBERT OWEN (1658-1698), Clenennau, Porkington, a Llanddyn, yn aer. Bu Syr Robert Owen yn aelod seneddol Meirionnydd o 1681 hyd 1685 ac yr oedd yn aelod dros sir Gaernarfon adeg ei farw. Ei wraig ef oedd MARGARET, merch hynaf ac aeres Owen Wynne, Glyn (Cywarch), sir Feirionnydd. Am fraslun o hanes aelodau diweddarach y teulu, sef disgynyddion Syr Robert a Lady Owen, gw. yr erthygl ar Wynne ac Owen (Teuluoedd), Glyn (Cywarch) a Brogyntyn. Eglurir yn y gwaith gan T. Jones Pierce a enwir isod sut y tyfodd stad a theulu Clenennau i bwysigrwydd mawr yn sir Gaernarfon.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth