Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MAURICE , Syr WILLIAM ( 1542 - 1622 ), gwleidyddwr ;

mab hynaf Moris ap Elise (bu f. 1575 ), Clenennau [q.v.] , aelod o hen deulu yn sir Gaernarfon a lwyddasai, yn ystod y ganrif flaenorol, i gasglu ynghyd y stad rydd-ddeiliadol ehangaf a mwyaf cryno yn ne sir Gaernarfon — wedi ei chanoli yn nhŷ maenol Clenennau (a adeiladwyd c. 1550 ) ac yn ymestyn i sir Fôn a sir Feirionnydd . Maurice oedd y cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r dull Seisnig o gymryd cyfenw. Treuliodd ef lawer iawn o'i oes yn yr ymdrech i ymestyn a chrynhoi a chadarnhau'r stad , a golygodd hyn iddo orfod cyfreithio yn fynych a'i gael ei hun mewn cythrwfl yn aml. Bu ei dair priodas o gymorth iddo yn y gwaith arbennig hwn. Daeth ei briodas gyntaf gyda Margaret Wyn Lacon ( Lakyn , neu Lake ) merch 14 oed ac aeres stad Porkington ( Brogyntyn yn awr), â'r stad honno yn sir Amwythig at yr un oedd ganddo eisoes. Yn ystod blynyddoedd diwethaf y frenhines Elisabeth yr oedd gweinyddiad gwladol a milwrol sir Gaernarfon bron yn gyfan gwbl yn cael ei rannu rhwng teulu Gwydir a theulu Clenennau . Heblaw bod yn ddirprwy-raglaw , bu Maurice yn siryf sir Gaernarfon yn 1581-2 a sir Feirionnydd yn 1605-6 . Bu'n cynrychioli sir Gaernarfon yn Senedd 1593 a Biwmares yn Senedd 1601 . Eithr ni wnaeth yr un argraff yno cyn Senedd gyntaf Iago I ; yn honno bu'n siarad ac yn dadlau heb flino ac yn llefaru dros y blaid a oedd yn ffafrio uno â Sgotland o dan yr enw cyfunol — ‘ Teyrnas Prydain Fawr ’, enw a apeliai ato ef fel Cymro gwladgarol. Yr oedd yn hawlio mai efe a awgrymodd i Iago fabwysiadu'r teitl cyn i'r Senedd gyfarfod (efallai pan wnaethpwyd ef yn farchog , fel ‘ Sir William Morris ’ — ar 23 Gorffennaf 1603 ); y mae cyfeiriad chwareus ei chwaer ato fel ‘ tad bedydd y brenin ’ wedi cael ei gymryd yn rhy lythrennol, gan nad oes dim tystiolaeth ei fod yn mwynhau cyfeillgarwch y brenin . Yr oedd yn wrthwynebus i'r monopoli a oedd gan y ‘ Shrewsbury Drapers ’ yng ngwerthu brethynnau a wneid yng Nghymru , eithr yr oedd o blaid hawliau'r confocasiwn, awdurdod cyfreithiol cyngor y goror yn Llwydlo , a hawl y brenin i gael rhoddion o fwyd a'i groesawu'n ddigost ac i gael rhoddion ariannol hael gan y Senedd . Er mai ychydig addysg ffurfiol a gawsai yr oedd wedi darllen llawer o weithiau ar ddiwinyddiaeth, y gyfraith, a gwleidyddiaeth — fel y gwelir oddi wrth y cyfrolau a fu yn ei lyfrgell. Yr oedd yn Eglwyswr Anglicanaidd pybyr ac yn Frenhinwr ; credai ef y gellid sicrhau delfrydau cenedlaethol Cymru trwy bartneriaeth â phobl eraill Prydain ; sonia'r bardd Richard Owen yn ddeheuig amdano wrth ei alw yn ‘ penn plaid brytaniaid .’ Coffeir ei farw (ar 10 Awst 1622 ) ar garreg fedd yn eglwys Penmorfa , ond bod yr arysgrif arni bron wedi diflannu erbyn hyn. Yr aeres a oroesodd oedd Elin , Lady (Francis) Eure ( 1578 - 1626 ), merch ei fab hynaf, William Wyn Maurice , a gweddw John Owen , Bodsilin , sir Fôn , ysgrifennydd Syr Francis Walsingham ; hyhi oedd mam Syr John Owen ( 1606 - 1666 ) [q.v.] , aer Clenennau , a William Owen ( 1607 - 1670 ) , aer Porkington . Ceir yng ngyrfa y ddeufrawd enghreifftiau o draddodiadau gwleiddydol eu hendaid.

Ffynonellau:

  • N.L.W. Llawysgrifau Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. , Clenennau Letters and Papers in the Brogyntyn Collection , 1947 , a Calendar of Wynn (of Gwydir) Papers, 1515–1690, in the National Library of Wales and elsewhere , 1926 ;
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , v, 165-74, vi, 3-5;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1942 , 15, 24-8, 37;
  • English Historical Review , lx, 193, 203-4;
  • Edwards , A Catalogue of Star Chamber Proceedings Relating to Wales , 1929 , 30-32, 34-5, 89-90, 153-5;
  • W. A. Shaw , Knights of England , 1906 , ii, 121.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

MAURICE , Syr WILLIAM ( Bywg. , 588)

Tua diwedd yr erthygl cywirer ‘ 1606 ' i 1600 . Gw. o dan Syr John Owen ( Bywg. , 667) .

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54