MAURICE, WILLIAM (bu f. 1680), hynafiaethydd a chasglwr llawysgrifau,
mab LewisMaurice, a ddisgynnai o deulu Moeliwrch, Llansilin; a Jane, merch John Holand, ficer Cegidfa (1586-1639). Treuliodd ei oes yng Nghefnybraich a'r Tŷ Newydd ar Gynllaith, ym mhlwyf Llansilin. Dywedir iddo godi adeilad arbennig o dri llawr, a elwid ‘Y Study,’ i gadw'r llyfrgell. Yr oedd yn ddigon cefnog i gasglu llyfrau a llawysgrifau, i gyflogi copïwyr, ac i dreulio'i amser i gopïo ac astudio llawysgrifau. Yn yr astudiaethau hyn ystyriai mai Robert Vaughan [q.v.], Hengwrt, oedd Gamaliel iddo. Gweithiodd lawer yn Hengwrt a gwnaeth gatalog o'r llawysgrifau a oedd yno. Daeth rhai llawysgrifau Cymraeg pwysig i'w feddiant yntau, megis Llyfr Gwyn Hergest, a gollwyd mewn tân yng ngweithdy llyfr-rwymwr yn Covent Garden yn 1810, a'r llawysgrif cyfraith a gafodd gan ei gâr, Meredith Lloyd, Bryn Elen (Wynnstay MS. 36). Copïodd swm mawr o farddoniaeth Gymraeg a gwnaeth astudiaeth arloesol ar destunau cyfraith Hywel yn ei ‘Deddfgrawn’ neu ‘Corpus Hoelianum’ (Wynnstay MSS. 37-8), yn 1660-3. Ymddiddorai yn hanes cynnar Cymru a'r Celtiaid, ac ysgrifennodd lythyr ar Brennus i Robert Vaughan yn 1662 (Wynnstay MS. 12). Nid anwybyddodd broblemau ei oes ei hun, ac yn 1653 ysgrifennodd draethawd yn erbyn allor-addoliad (Wynnstay MS. 12), gan feirniadu gwaith y Dr. George Griffith, esgob Llanelwy yn ddiweddarach [q.v.], a Richard Jervis, ficer ei blwyf ei hun, a dywedir iddo wneuthur cronicl o ddigwyddiadau'r Rhyfel Cartrefol yng Ngogledd Cymru. Rhestrir dros 100 o lawysgrifau a fu yn ei feddiant, neu a ysgrifennwyd ganddo, gan Evan Evans (llsgr. Panton 72). Bu'n briod ddwywaith: (1) â Lettice, merch Roger Kynaston, Cefn-y-carneddau, ger y Bont Newydd, Rhiwabon, o ferch ac aeres Roger Eyton o'r lle hwnnw. Ohoni hi cafodd dri mab a fu farw'n ieuainc, a dwy ferch — Ann, gwraig David Williams, Glan Alaw, brawd Syr William Williams, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin [q.v.], a Lettice, gwraig Roger mab Thomas Gethin, Maesbrwc; (2) ag Elisabeth Ludlow, merch George Ludlow, Morehouse, a gweddw Thomas Gethin; ac ohoni hi cafodd un ferch, Elizabeth, a briododd George Jukes, y Trallwng. Yn 1678 bu ganddo ran yn ymgais Syr William Williams i brynu llyfrgell Hengwrt. Claddwyd ef yn Llansilin, mewn gwth o oedran, 23 Mawrth 1680. Gadawodd ei lyfrgell i'w ferch Lettice. Prisiwyd hi gan Edward Millington, allan o restr, yn werth £60 yn 1682, a gwerthwyd hi i Syr William Williams. Fe'i cadwyd yn Llanforda hyd oddeutu 1771, pryd y cymerwyd y rhan fwyaf ohoni i Wynnstay, ac yno mewn tân, 5-6 Mawrth 1858, y collwyd bron y cyfan. Ar wahân i'r llawysgrifau a nodwyd eisoes, y prif rai yn llaw William Maurice sy'n aros yw Llanst. MSS 15, 31, 54, a 197. Defnyddiai ar brydiau orgraff arbennig iddo'i hun, ac nid oedd un llawysgrif yn ddigon gwerthfawr yn ei olwg i'w gadw rhag ei hanurddo â'i ysgrifen glogyrnaidd.
Llyfryddiaeth:
- Powys Fadog, iv, 252;
- The Cambro-Briton, i, 379-80;
- Wynnstay MS. 143, 234;
- N.L.W. MSS. 732; 1505, 418;
- Cylch. Ll.G.C., ii, 26-36;
- N.L.W. Handlist of MSS., I, xvi-xx;
- Hist. MSS. Comm..
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth