Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MEADOWS, JOSEPH KENNY (1790-1874), darluniwr; bedyddiwyd 1 Tachwedd 1790 yn eglwys S. Mair, Aberteifi, ail fab James Meadows (hen swyddog yn y llynges). Ni wyddys ddim o'i hanes hyd y flwyddyn 1823, pryd y ceir ef yn gyfrifol am rai o'r darluniau yn The Mirror of the Stage a'r lluniau ar garreg (‘lithographs’) yng ngwaith Planché, Costume of Shakespere's Historical Tragedy of King John. Daeth i amlygrwydd mawr gyda The Heads of the People or Portraits of the English, 1838-40, gwaith y cyfrannodd W. M. Thackeray iddo. Cyhoeddodd argraffiad darluniadol o weithiau Shakespeare, 1839-43, a bu hefyd yn gwneuthur darluniau ar gyfer rhai o rifynnau Nadolig yr Illustrated London News. Priododd ferch John Henning, cerflunydd. Yr oedd yn gyfeillgar â phrif awduron ei gyfnod. Bu f. 19 Awst 1874.

Llyfryddiaeth:

  • Cofrestri plwyf S. Mair, Aberteifi;
  • D.N.B.;
  • catalog rhif 139 Ifan Kyrle Fletcher;
  • G. N. Ray, gol., The Letters of W. M. Thackeray (Llundain, 1945), i, 426.

Awdur:

Cecil John Layton Price, Ph.D. (1915-91), Aberystwyth / Abertawe