MEILYR BRYDYDD (fl. c. 1100-37), pencerdd llys
Gruffudd ap Cynan yn Aberffraw. Ystyrir ef y cyntaf o'r Gogynfeirdd. Yn ei hanes ef a'i fab Gwalchmai a'i ŵyrion y ceir yr enghraifft debycaf yng Nghymru i'r hyn y gwyddom gymaint mwy amdano yn Iwerddon, sef teulu yn etifeddu'r swydd o bencerdd llys i linach arbennig o dywysogion, a chan y beirdd hyn eu treftadaeth dirol oblegid eu swydd farddol. Ceir Trefeilyr a Threwalchmai ym Môn hyd heddiw. Dangosodd Syr J. Morris-Jones fod anhawster amseryddol ar ffordd derbyn awduriaeth Meilyr Brydydd ar yr awdl-gywydd marwnad i Drahaearn fab Caradog a Meilyr fab Rhiwallon a laddwyd ym Mynydd Carn (1081). Nid oes ddim arall ar gael o'i waith ond marwnad Gruffudd ap Cynan (1137), a marwysgafn y bardd ei hun. Yn y gyntaf fe geir, fel y gwelodd Syr J. E. Lloyd, y mynegiant cyntaf sydd ar gael mewn barddoniaeth Cymraeg o'r adfywiad Cymreig a gydredai â chynnydd tywysogion Gwynedd yn y 12fed g. Yn y farwysgafn dymuna Meilyr gael ei gladdu yn Enlli. Nid yw'n debyg iddo oroesi ei brif noddwr yn hir, ac yr oedd Gwalchmai, ei fab, eisoes yn ddigon hen i dderbyn rhoddion tywysogion Gwynedd cyn 1132 (gw. Hendreg. MS. 13a).
Llyfryddiaeth:
- Barddoniaeth yn Llsgr. Hendreg. 1933;
- M.A. (Myv. Arch.), 140-2;
- J. Morris-Jones, Cerdd Dafod, xxiv;
- J. E. Lloyd, Hist. W.;
- J. Lloyd-Jones, Court Poets of the Welsh Princes.
Awdur:
David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban