MENDS, CHRISTOPHER (1724?-1799), cynghorwr Methodistaidd a gweinidog gyda'r Annibynwyr;
g. yn y ‘Cotts’ gerllaw Hasguard, gorllewin Penfro, 22 Chwefror ‘1724’ (gall mai 1725), yn un o naw o blant; disgrifia ei dad fel ‘clothier.’ Yn 1741, yr oedd ef a'i frawd WILLIAM MENDS yn byw yn Nhalacharn (lle'r oedd melinau pannu), ac yno yr argyhoeddwyd hwy (pan oedd Christopher yn 17 oed) dan Whitefield. Aeth y ddau frawd ati i gynghori, ac yr oeddynt â gofal nifer o seiadau, mewn cylch a ymestynnai o Landeilo Fawr hyd Frowyr. Adroddant i'r sasiwn, 25 Hydref 1748, eu bod wedi cymryd tŷ yn Nhalacharn ‘for Methodist worship,’ a'i fod yn llawn bob Sul, ond mai egwan oedd y seiadau yno ac yng Nghaerfyrddin. Ond ar 10 Ionawr 1749 dengys cofnodion chwarter sesiwn y sir (Trans. Carm. Ant. Soc., iii, 73) fod ‘the house of Chr. Mends and William Mends, situate in the town of Laugharne’ i'w restru'n dŷ-cwrdd Ymneilltuol. Aeth Christopher i'r weinidogaeth Annibynnol; bu'n weinidog yn Brinkworth (Wilts) o 1749 hyd 1761, ac yna yn Plymouth 1761-99. Dywed iddo fod yn academi Caerfyrddin ‘for some years,’ dan Evan Davies [q.v.]; os felly, yr oedd yno cyn 1749, pan oedd eto'n gynghorwr Methodistaidd (cymharer Bloom, Milbourne) — efallai mai ef a ofalai am seiat Caerfyrddin, a'i frawd am seiat Talacharn. Yn ôl cofnod Morafaidd (Cymm., xlv, 34), aeth William hefyd yn Annibynnwr, ac yn wir y mae hanes y tŷ yn Nhalacharn yn cadarnhau hynny. Ni wyddys ragor am William, ond bu Christopher farw yn Plymouth, 5 Ebrill 1799. Gwelir ei hunangofiant yn yr Evangelical Magazine, 1799, 397. Yn Trans. Angl. Ant. Soc., 1942, 33-41, argraffwyd parodi diddorol o bregeth gan ryw ‘Young Mends the Clothier’ — y mae'n amlwg mai un o'r ddau frawd. Yn ysgrifen Lewis Morris o Fôn (N.L.W. MS. 67) y mae'r ‘bregeth,’ ond ni wyddys ai ef a'i lluniodd — sut bynnag, tebyg iddo glywed am ‘Young Mends’ pan oedd yn Nyfed yn mapio'r porthladdoedd. Ni ellir barnu chwaith pa faint o rawn sy'n gymysg ag us y ddychan; ond gellir nodi y gelwir tad y pregethwr yn ‘David Mends.’
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.