Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MEREDITH, Syr JOHN (1714-1780), cyfreithiwr yn Aberhonddu , brodor o sir Faesyfed. Bu'n siryf Brycheiniog yn 1762 (yn y flwyddyn honno, gellid meddwl, yr urddwyd ef yn farchog), a hefyd yn siryf sir Faesyfed — yn 1780, meddai'r copi o'i feddargraff yn Jones, Hist. Brecknock, 3ydd'arg, ii, 91, ond yn 1767 meddai'r rhestr o siryfon Maesyfed yn Jonathan Williams Hist. Radnorshire, 2il arg., 97. Bu f. 6 Mawrth 1780, yn 66 oed; bu ei briod Johannah farw naw diwrnod o'i flaen. Meredith oedd cyfreithiwr Howel Harris; gwelir llythyrau ganddynt yng nghasgliad Trefeca yn Ll.G.C., rhwng y rhifnodau 2123 a 2546.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.