MEREDITH, RICHARD (bu farw 1597), esgob

Enw: Richard Meredith
Dyddiad marw: 1597
Rhiant: Margaret ferch William John ap Gronw
Rhiant: Robert Meredith ap Gronw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Leighlin yn Iwerddon, ganwyd yn sir Ddinbych, yn fab, meddir, i un Robert Meredith ap Gronw a Margaret, merch William John ap Gronw. Y mae'n bosibl ei fod o'r un cyff â Meredithiaid Stansty. Gall mai ef yw'r Richard Meredith a raddiodd yn B.A. yng Ngholeg Iesu, 4 Mawrth 1572/3, ond mae sicrwydd iddo dderbyn ei M.A. o'r un coleg yn 1575. Daeth yn gaplan i Syr John Perrot, arglwydd-raglaw Iwerddon, ac yn fuan fe'i dyrchafwyd gan Perrot yn ddeon eglwys S. Patrick ger Dulyn, ac, yn Ebrill 1589, yn esgob Leighlin. Pan gyhuddwyd ei noddwr ar gam dystiolaeth o gynllwynio yn erbyn y frenhines Elisabeth, galwyd Meredith yntau i gyfrif gan y Cyfrin Gyngor, a bu am dymor yn 1591 yn garcharor yn y ' Fleet.' Bu farw 3 Awst 1597, a chladdwyd ef yn eglwys S. Patrick.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.