MERFYN FRYCH (bu farw 844), brenin Gwynedd

Enw: Merfyn Frych
Dyddiad marw: 844
Priod: Nest ferch Cadell ap Brochwel
Plentyn: Rhodri Mawr
Rhiant: Esyllt ferch Cynan Dindaethwy
Rhiant: Gwriad
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Gwynedd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab Gwriad, pennaeth yn Ynys Manaw (y mae'n bosibl) ac yn disgyn (meddid) o Lywarch Hen, ac Ethyllt, tywysoges o Wynedd. Pan fu farw Hywel ap Rhodri Molwynog, ewythr ei fam, yn 825, daeth Merfyn Frych yn frenin ym Môn; yn ddiweddarach, pan fu Hywel ap Caradog farw, ymddengys iddo ddyfod yn frenin cantrefi yr ochr arall i afon Menai. Adunwyd felly etifeddiaethau disgynyddion uniongyrchol diwethaf llinach Cunedda Wledig yng Ngwynedd. Priododd Nest, merch Cadell ap Brochwel, Powys; mab iddynt oedd Rhodri Mawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.