Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MEURIG ab IDWAL FOEL (bu f. 986 ) ,

mab ieuengaf Idwal Foel . Gan iddo farw yr un flwyddyn â'i nai, Cadwallon , brenin Gwynedd , y mae'n debyg na fu erioed yn frenin ei hunan; eithr cadwyd llinach Rhodri Fawr yng Ngwynedd trwy ei ddisgynyddion ef — gw. Idwal ap Meurig .

Ffynonellau:

  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54