Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MEYLER , JAMES ( 1761 - 1825 ), gweinidog Annibynnol ,

g. yn 1761 , ym Mhenysgwarn , Llanwnda , sir Benfro . Cafodd addysg dda yn ei ieuenctid. Bu am ysbaid yn ysgrifennydd i gyfreithiwr . Daeth yn aelod yn eglwys Rhos-y-caerau ac yno y dechreuodd bregethu . Bu yn athrofa Wrecsam dan Jenkin Lewis [q.v.] . Wedi gorffen ei gwrs yno cafodd alwad o'i fam-eglwys, sef Rhos-y-caerau ; urddwyd ef yno 20 Hydref 1795 . Cymerth ran flaenllaw, gydag eraill, yn sefydlu achosion Saesneg yn rhannau Seisnig sir Benfro . Ar gyfrif ei wybodaeth o'r gyfraith a'i allu arbennig i ddadlau achosion dioddefwyr, cyfrifid ef yn arweinydd doeth mewn byd ac eglwys. Yr oedd yn ŵr diwylliedig ei feddwl, aeddfed a diogel ei farn, ac yn bregethwr a edmygid yn fawr. Bu f. yn 1825 yn 64 oed.

Ffynonellau:

  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , iii, 35;
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , ii 263-4.

Awdur:

Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54