Dilynwyd Owen Meyrick gan ei fab, OWEN MEYRICK II ( 1705 - 1770 ), a briododd aeres gyfoethog, merch i John Putland o Lundain ; a chan ei fab yntau, OWEN MEYRICK ( 1752 - 1825 ), a fu'r un mor ffortunus yn ei briodas — â Clara , merch ac aeres Richard Garth , Morden , Surrey . Cyfoethogwyd y stad drachefn trwy briodas ei ferch a'i gyd-aeres, Clara , ag AUGUSTUS FULLER , Ashdowne House , Sussex . Mabwysiadodd eu mab, OWEN FULLER ( 1804 - 1876 ), yr enw Meyrick pan etifeddodd stad Bodorgan ar farw ei daid.
Yn nhreigl amser, ymsefydlodd tair cangen arall o'r Meyrickiaid yng Ngwyddelwern , sir Feirionnydd , yng Nghefn Coch , Llanfechell , ac yn Monckton , sir Benfro . Y rymusaf o'r tair oedd yr olaf, a sylfaenwyd gan ROWLAND MEYRICK ( 1505 - 1566 ), ail fab Meurig ap Llewelyn a brawd i Richard Meyrick I . Addysgwyd ef yn Neuadd S. Edward , Rhydychen , lle y graddiodd yn B.C.L. yn 1531 ac yn D.C.L. yn 1538 . Bu'n brifathro New Inn Hall , 1534-6 . Yn 1550 daeth yn ganon a changhellor Tyddewi , a thra yno bu iddo ran flaenllaw yn y cweryl ffyrnig rhwng y cabidwl a'r esgob — Robert Ferrar [q.v.] ynghylch buddiannau'r eglwys gadeiriol. Trowyd ef allan o'i ganoniaeth yn Nhyddewi pan ddaeth Mari Tudur i'r orsedd, ond daeth tro arall ar ei fyd toc, ac ar 21 Rhagfyr 1559 gwnaed ef yn esgob Bangor mewn olyniaeth i William Glynn [q.v.] . Priododd, 1554 , Catherine , merch Owen Barrett o Gellyswick a Hasguard , sir Benfro , a bu f. 24 Ionawr 1565/6 gan adael pedwar mab. Ymdrinir â dau ohonynt, Syr Gelly Meyrick a Syr John Meyrick , yn yr ysgrif nesaf.
Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor.