Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MEYRICK ( MERRICK ) (TEULU), Hascard , Fleet , a Bush ( sir Benfro ), a Wigmore ( sir Worcester ).

Y mae cangen sir Benfro o deulu Meyrick , Bodorgan , sir Fôn [q.v.] , yn cychwyn gyda phriodas Rowland Meyrick , esgob Bangor , a Catherine , merch Owen Barrett , Gelliswic , sir Benfro .

Galwyd eu mab hynaf hwynt, Syr GELLY ( GILLY , GILLIES , neu GUILLIAM ) MEYRICK ( 1556? - 1601 ), ar enw stad ei fam. Pan fu farw ei dad (yr oedd y mab tua 9 oed ar y pryd) fe'i hanfonwyd ef i'w ddwyn i fyny ar faenol ei fam, Hascard , gerllaw Lamphey ; yno aeth i wasnaethu Syr George Devereux (gw. o dan Devereux ). O tua'r flwyddyn 1583 bu yn yr Iseldiroedd , yn gwasnaethu'r ail iarll Essex , nai ei noddwr, yn Flushing yn 1585 , ac wedi hynny ym myddin Leicester . Wedi dychwelyd daeth yn stiward teulu i Essex ( c. 1587 ), a bu'n cynrychioli sir Gaerfyrddin yn Senedd 1588 . Dilynodd Essex i Portugal ( 1589 ) a Normandi ( 1591 ), a phan fu farw ei berthynas Syr Roger Williams [q.v.] yn 1592 — gŵr deheulaw Essex hyd hynny — daeth yntau'n ŵr mwyaf ei awdurdod gyda'r iarll ; yr oedd ei deyrngarwch yn ddiarhebol, ac ar gais Essex rhoes y frenhines iddo diroedd eang — yn eu plith yr oedd castell Wigmore , a ddaeth yn bennaf cartref iddo. Gwnaeth Essex ef yn farchog (o dan yr enw Syr William neu Gellian ) yn ystod y cyrch i Cadiz ( 1596 ); yn 1597 aeth gyda'i arglwydd i'r Azores a bu'n eistedd (dros Sir Gaerfyrddin , y mae'n debyg) yn y Senedd , lle yr oedd erbyn hyn wedi dyfod i gryn bwysigrwydd. Yr ymgyrch olaf y bu ynddi oedd gydag Essex yn Iwerddon ( 1599-1600 ). Ar ôl colli ffafr am gyfnod byr ( Gorffennaf 1600 ), cafodd ei ddefnyddio, ym mis Ionawr 1601 , i gasglu ynghyd, i blaid yr iarll , ddilynwyr Devereux yn Ne Cymru , y milwyr cleddyfau a fu'n gwasnaethu gydag ef dros y môr, a'i wŷr a'i berthnasau ef ei hun yn swydd Faesyfed (lle yr oedd wedi priodi, c. 1584 , merch Ieuan Lewis , Gladestry , gweddw John Gwynn , Llanelwedd , a ddaeth â'r ddwy stad hyn iddo), ac yn sir Gaerfyrddin (lle yr oedd ei ferch, Margaret , yn wraig Syr John Vaughan , Golden Grove , iarll 1af Carbery yn ddiweddarach) [q.v.] , a'i frawd Francis (isod) hefyd. Yr oedd yn gyfrifol am drefnu llety i ddilynwyr yr iarll yn Llundain , am ‘lwgr-wobrwyo’ chwaraewyr theatr y Globe i chwarae Richard the Second ar fin y gwrthryfel ( 6 Chwefror ), ac am amddiffyn Essex House ( 8 Chwefror ) yn erbyn lluoedd y Llywodraeth . Ar 13 Mawrth 1601 cafodd ei ddienyddio am deyrnfradwriaeth. Ailfreiniwyd ei fab Roland Meyrick a'i ferch, yr arglwyddes Vaughan , o ran gwaed ac enw, gan Iago I ( 24 Mai 1606 ).


Yr oedd Syr FRANCIS MEYRICK ( marchog , 5 Awst 1599 ; bu f. 29 Gorffennaf 1660 ), Fleet , Monkton , brawd iau Syr Gelly , gydag ef yn Iwerddon (yn ben ar y lluoedd a ddaethai o orllewin Cymru ); cymerodd hefyd ran fechan yng ngwrthryfel Essex eithr cafodd ddianc rhag cosb. Gwnaethpwyd trydydd mab Syr Francis sef Syr JOHN MEYRICK (bu f. 1659 ), milwr , yn farchog yn 1614 (13 Mehefin) , aeth gyda'r 3ydd iarll Essex i Fflandrys yn 1620 , a bu'n ymladd yn ddiweddarach yn yr Iseldiroedd ( 1624 ), yn Sbaen ( 1625 ), o dan Gustavus Adolphus yn rhyfel 1618-48 , lle y clwyfwyd ef ger Maastricht ( 17 Awst 1632 ). Bu'n eistedd dros Newcastle-under-Lyme yn y Senedd Fer a'r Senedd Faith , lle y buwyd yn gofyn ei farn ar faterion milwrol yn fynych. Bu'n bennaeth ar gatrawd yn y ‘ Bishops' Wars ,’ 1639-40 (lle yr oedd ei frawd GELLY MEYRICK , a wnaethpwyd yn farchog Syr Gillan — ar 26 Mawrth 1639 , yn ‘ ensign ’), a chymeradwywyd ef gan Dŷ'r Cyffredin i fod yn swyddog yn Iwerddon cyn gynted ag y torrodd y cythrwfl Gwyddelig allan ym mis Hydref, 1641 . Yn ystod y Rhyfel Cartrefol daeth yn ‘ adjutant-general ’ ym myddin Essex ac wedi hynny'n gadfridog gynnau mawr ; bu hefyd yn gomisiynwr trethi , etc., dros sir Benfro yn 1647 . Eithr nid oedd yn cydweld â dienyddio'r brenin , ac ymddeolodd o fywyd cyhoeddus yn ystod yr ‘ Interregnum ’ a bu f. yn 1659 . Y mae'r darlun mewn olew ohono yn Bush , cartref ei ddisgynyddion hyd 1837 , yn awr yn Slebech . Bu dau o'i ŵyrion mewn swyddi ynglŷn â'r gyfraith yng Ngogledd Cymru : bu JOHN MEYRICK , Bush (g. 1674 ; cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu , a'r Middle Temple ), yn cynrychioli Penfro ( 1702-8 ) ac Aberteifi ( 1710-2 ) yn y Senedd , a daeth yn is-farnwr cylchdaith Môn ( 1712-4 ), a bu FRANCIS MEYRICK yn ‘ Registrar’ Gogledd Cymru . Y mae'r teulu yn parhau i wasnaethu yn sir Benfro .

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , 126-7;
  • D. Mathew , The Celtic Peoples and Renaissance Europe. A study of the Celtic and Spanish influences on Elizabethan history , 1933 , penodau xviii a xxi;
  • Adroddiadau'r 'Historical Manuscripts Commission' , 3rd R. , 498, 4th R. , 336, 5th R. , 362-3, Rutland , i. 367-70, Cecil , iv, 340, vi-ix, xi, xiii, xiv;
  • Rushworth , Historical Collections of Private Passages of State , 1721 , iii, 1241 ff.;
  • The Journals of the House of Lords , i, 445;
  • W. A. Shaw , Knights of England , 1906 , ii, 57, 93, 154, 206;
  • W. R. Williams , The history of the Great Sessions in Wales, 1542-1830 together with the lives of the Welsh judges, and annotated lists of the chamberlains and chancellors, attorney generals, and prothonotaries of the four circuits of Chester and Wales , Brecknock, 1899 , 113;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1946-7 , 77, 84;
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , vi, 190-1;
  • Firth a Rait , Acts and Ordinances of the Interregnum, 1642–1660 , 1911 , i, 290.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

MEYRICK ( MERRICK ) (TEULU; Bywg. , 593)

Yn 1595 y bu Syr Roger Williams farw. Gw. dan yr enw ( Bywg. , 1004).

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54