MIDLETON
(
MYDDELTON
),
WILIAM
(
c.
1550
-
c.
1600
),
bardd, milwr, a morwr
;
mab
Ffowc
Midleton
o
Archwedlog
yn
Llansannan
. Dywedir yn gyffredin iddo fod ym
Mhrifysgol Rhydychen
, ond ni ellir profi hynny. Bu yng ngwasanaeth
Henry
Herbert
,
iarll Pembroke
, ac yn
1575
canodd awdl farwnad i
Gatrin
,
iarlles Pembroke
. Yn
1585-6
, bu gydag
iarll Leicester
yn ymladd yn erbyn y
Sbaenwyr
yn yr
Iseldiroedd
, a dywedir ei fod yn y frwydr pan laddwyd
Syr
Philip
Sidney
. Ac yn ôl pob tebyg, yr oedd yn un o‘r llu a yrrwyd i
Portugal
yn
1589
, gyda‘r amcan o roddi
Don
Antonio
ar yr orsedd. Wedi iddo ddychwelyd, ymddengys iddo wasnaethu ei
frenhines
ar y môr
, ac ennill enw iddo ei hun fel
morwr
dewr. Dywedwyd mai ef oedd y ‘
Captaine
Middleton
’ a anfonwyd yn
1591
gan
iarll Cumberland
(yr hwn oedd gyda‘r llynges yn ymyl traethau
Portugal
) i rybuddio‘r
arglwydd
Thomas
Howard
, a oedd yn disgwyl llongau trysor
Sbaen
wrth
ynysoedd Azores
, fod llynges gref yn hwylio i ymosod arno. Yna bu‘r frwydr enwog rhwng y llong
Revenge
a
llynges Sbaen
. Ond ni ellir profi mai‘r
bardd
ydoedd hwn gan fod amryw gapteiniaid eraill yn dwyn yr enw
Midleton
. Anodd olrhain ei gamre wedi hyn. Yr oedd yn
India‘r Gorllewin
yn
1596
, a gellir bwrw mai ar y môr y bwriodd y rhan fwyaf o‘i amser yn y cyfnod hwn. Bu farw rywbryd
cyn 1603
, oherwydd cynhwyswyd marwnad iddo yn y
Psalmae
a gyhoeddwyd y flwyddyn honno.
Y mae
Wiliam
Midleton
yn enghraifft dda o
uchelwr diwylliedig
yng nghyfnod y
Dadeni
. Dysgodd
gelfyddyd cerdd dafod
yn ei ieuenctid, ac yn
1593-4
cyhoeddodd lyfr yn disgrifio‘r gelfyddyd honno, sef
Bardhoniaeth, neu brydydhiaeth
. Nid ei disgrifio yn null y
penceirddiaid
a wnaeth, eithr egluro‘r prif hanfodion fel y gallai pob gŵr bonheddig o
Gymro
ymarfer â hi. Mynnai greu yng
Nghymru
yr un math o fywyd llenyddol ag a welid yng ngwledydd eraill
gorllewin Ewrop
yn yr oes honno. Ceir awdlau a chywyddau ac englynion o‘i waith yn y llawysgrifau, ac yn
1603
cyhoeddodd
Thomas
Salesbury
ei gyfieithiad o‘r
Salmau
ar fesurau‘r
penceirddiaid
,
Psalmae y Brenhinol Brophwyd Dafydh
. Cafwyd gafael hefyd ar ddarn o lyfr arall o‘i waith wedi ei argraffu
tua 1595
, a gynhwysai rai o‘r salmau yn ogystal â chywyddau. Yr oedd yn un o‘r beirdd
Cymraeg
cyntaf i edrych ar yr argraffwasg fel cyfrwng i ledaenu ei weithiau. Y mae
Wiliam
Midleton
, felly, yn ffigur pwysig yn hanes llenyddiaeth
Gymraeg
yn
ail hanner yr 16eg g.
Ffynonellau:
-
Barddoniaeth neu Brydyddiaeth
(1930)
.
1930
, 1-45;
-
Journal of the Welsh Bibliographical
Society
, iv, 257-61;
-
The Denbighshire Society in London
Handbook
(1937-8)
,
1937-8
, 27-41.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963),
Gwaelod-y-garth, Caerdydd