Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MILLS , SEBASTIAN BACH ( 1838 - 1898 ), pianydd ;

g. ym mis Mawrth 1838 yn y Coety , gerllaw Penybont-ar-Ogwr , sir Forgannwg , yn fab i organydd . Teithiodd lawer. Yn 1878 bu gyda Joachim a Madame Schumann mewn cyngherddau yn yr Almaen . O 1883 hyd 1897 yr oedd yn athro cerddoriaeth yn Efrog Newydd . Yr oedd yn yr Almaen yn 1897-8 , ac yno y bu f. ar 21 Rhagfyr 1898 .

Ffynonellau:

  • Y Drych newyddiadur cenedlaethol Cymry America (Utica), 2 Chwefror 1899 ;
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen ... from the earliest times to the present , 1908 .

Awdur:

Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54