MILLINGCHAMP, BENJAMIN (1756 - 1829), caplan yn y llynges, a chasglwr llyfrau a llawysgrifau dwyreiniol

Enw: Benjamin Millingchamp
Dyddiad geni: 1756
Dyddiad marw: 1829
Priod: Sarah Millingchamp (née Rawlinson)
Rhiant: Anne Millingchamp (née Gambold)
Rhiant: Benjamin Millingchamp
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: caplan yn y llynges, a chasglwr llyfrau a llawysgrifau dwyreiniol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Milwrol; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn 1756, mab Benjamin Millingchamp, ac wyr Joseph Millingchamp, pennaeth tollfa'r Llywodraeth ('Comptroller of the Customs') yn nhref Aberteifi, a'i wraig Anne (Gambold). O ysgol Ystrad Meurig aeth i Rydychen, gan ymaelodi 12 Chwefror 1773 o Goleg y Frenhines, a symud i Goleg Merton cyn graddio yn 1777.

Ordeiniwyd ef yn ddiacon, 9 Awst 1778, gan J. Yorke, esgob Tyddewi. Ar 4 Medi 'r un flwyddyn apwyntiwyd ef yn gaplan ar y Superbe, llong y llyngesydd Syr Edward Hughes, a hwyliodd i'r India yn gynnar yn 1779. Bu allan o'r wlad am 18 mlynedd, gan dreulio'r blynyddoedd o Orffennaf 1782 ymlaen yn gaplan yn Fort St. George, Madras. Yno dechreuodd ddysgu iaith Persia, a daeth yn hyddysg ynddi; casglodd hefyd lyfrau a llawysgrifau Perseg a rhai dwyreiniol eraill (y maent yn Ll.G.C. er 1912). Gadawodd yr India yn derfynol yn 1796 a dychwelodd i Brydain.

Priododd, 1798, Sarah Rawlinson, Grantham, ac ymgartrefodd gyda'i wraig ym Mhlas Llangoedmor, gerllaw Aberteifi. Cafodd rai bywiolaethau a swyddi eglwysig yng Nghymru a Lloegr, gan ddyfod yn archddiacon Caerfyrddin yn 1825 - manylion yn NLW MS 13737C . Cymerodd radd D.D. yn Rhydychen yn 1821. Cyhoeddwyd (yng Nghaerfyrddin, 1812) A Sermon preached at St. Peter's Church, Carmarthen, on Thursday, July 4th, 1811, before the Society for Promoting Christian Knowledge and Church Union in the Diocese of St. Davids. … By the Rev. Benjamin Millingchamp.

Bu farw 6 Ionawr 1829 a chladdwyd ef yn Llangoedmor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.