Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MILLS , EDWARD ( 1802 - 1865 ), darlithiwr ac ysgrifennwr ar wyddoniaeth ;

g. yn 1802 , yn fab i Edward a Mary Mills o Lanidloes ac yn ŵyr i Henry Mills [q.v.] . Cynlluniodd ‘orrery’ (dyfais i ddangos symudiadau‘r gyfundrefn heulog) , a theithiodd yma a thraw yng Nghymru gyda hi, gan ddarlithio ar seryddiaeth . Yn 1850 , cyhoeddodd Y Darluniadur Anianyddol , llyfr ar seryddiaeth a daearyddiaeth, gyda darluniau a ysgythrwyd ar bren ganddo ef ei hunan a‘i fab. Bu f. yn Ninbych yn 1865 , yn 63 oed.

Ffynonellau:

  • R. Williams , Montgomeryshire Worthies , ail arg., 1894

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54