MILLS, JOHN ('Ieuan Glan Alarch'; 1812 - 1873); gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a cherddor

Enw: John Mills
Ffugenw: Ieuan Glan Alarch
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1873
Rhiant: Mary Mills
Rhiant: Edward Mills
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a cherddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth
Awdur: Gwilym Prichard Ambrose

Ganwyd 19 Rhagfyr 1812 yn Mount Street, Llanidloes, yn fab Edward a Mary Mills ac ŵyr Henry Mills. Bu mewn ysgol nes bod yn 13 oed ac yna aeth i ffatri wlân ei dad. Denwyd ef gan gerddoriaeth yn ieuanc ac astudiodd ramadegau cerddorol yn ddyfal; bu'n rhoddi addysg yn elfennau miwsig yng Nghymdeithas Gerddorol Llanidloes o dan arweiniad ei ewythr, James Mills. Yn 1838 dug allan Gramadeg Cerddoriaeth, gwaith a gafodd gylchrediad eang; cyhoeddodd hefyd Hyfforddwr yr Efrydydd. Yn yr un flwyddyn bu ar daith yn siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, Morgannwg, a Môn, ac yn Lerpwl - yn darlithio ar ddirwest a cherddoriaeth ac yn cychwyn cymdeithasau cerdd. Yn 1841 aeth i Ruthyn yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cyhoeddodd Y Perl Ysgrythurol yn 1843, ac, yn 1845, Y Beirniadur Cymreig . Yn 1846 aeth yn genhadwr ymysg yr Iddewon yn Llundain ac ymwelodd â Phalesteina; cyhoeddwyd Iddewon Prydain yn 1852, British Jews yn 1853, a Palesteina yn 1858. Penodwyd ef yn weinidog eglwys Gymraeg Nassau Street, Llundain, yn 1863. Heblaw y llyfrau a enwyd eisoes cyhoeddodd Y Geirlyfr Ysgrythurol, 1840; Y Cerddor Eglwysig, 1846; Y Salmydd Eglwysig, 1847; Elfennau Cerddorol, 1848; Darlith ar Gerddoriaeth, 1849; Y Canor, 1851; Yr Athraw Cerddorol, 1854; Y Cerddor Dirwestol, 1855; Daearyddiaeth Ysgrythyrol, 1861; a Beibl y Teulu, 1862. Ysgrifennodd erthyglau i'r Traethodydd, y Journal of Sacred Literature, a'r Imperial Bible Dictionary. Bu'n ysgrifennydd yr ' Anglo-Biblical Institute.' Bu farw 28 Gorffennaf 1873 a chladdwyd ym mynwent Abney Park, Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.