MORGAN, ABEL (1673 - 1722), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Abel Morgan
Dyddiad geni: 1673
Dyddiad marw: 1722
Priod: Judith Morgan (née Griffiths)
Priod: Martha Morgan (née Burrows)
Priod: Priscilla Morgan (née Powell)
Rhiant: Morgan Roderick
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd yn yr Allt-goch, Cwrtnewydd, plwyf Llanwenog, yn 1673 yn fab i Morgan Rhydderch (a etholwyd yn ddiacon yn Rhydwilym yn 1668, a'i ordeinio i'r swydd yn 1669), yn frawd i Enoc Morgan (1676 - 1740), gweinidog eglwys y Welsh Tract, Delaware, ac yn nai i Siôn Rhydderch, argraffydd, Amwythig. Symudodd yn gynnar i ardal y Fenni ac ymaelodi yn Llanwenarth. Dechreuodd bregethu yn 1692 a chafodd alwad i Flaenau Gwent yn 1696 (neu 1697), er nad ymddengys ei ordeinio yno cyn 1700. Ymfudodd i America ym Medi 1711, ond cafodd fordaith helbulus, ac yr oedd hi'n Chwefror 1712 arno'n cyrraedd Pennsylvania, a'i wraig Priscilla Powell, o'r Fenni, a'i fab wedi marw ar y ffordd. Bu'n weinidog yno ar eglwys Pennepeck hyd ei farw 16 Rhagfyr 1722. Claddwyd ef ym mynwent Mount Moriah, Philadelphia. Priododd, (2), â Martha Burrows, a (3), â Judith (neu Martha) Joading, gwraig weddw, a merch Thomas Griffiths (1645 - 1725), gweinidog cyntaf y Welsh Tract. Ganed iddo fab a merch o'r briodas gyntaf a thri mab ac un ferch o'r olaf.

Cofir ef yn bennaf am y Cyd-gordiad Egwyddorawl o'r Scrythurau (Philadelphia, 1730) o'i eiddo, a gyhoeddwyd wedi ei farw. Hwn yw'r cyntaf o'r fath yn yr iaith, a'r ail lyfr Cymraeg i'w argraffu yn America.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.