MORGAN, JOSEPH BICKERTON (1859 - 1894), daearegwr ac arbenigwr mewn cregynyddiaeth

Enw: Joseph Bickerton Morgan
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1894
Rhiant: Arthur J. Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearegwr ac arbenigwr mewn cregynyddiaeth
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Frederick John North

Ganwyd 26 Mehefin 1859 yn y Trallwng, Sir Drefaldwyn, mab Arthur J. Morgan. Pan oedd yn ieuanc dechreuodd gymryd diddordeb yng nghreigiau ei ardal enedigol ac enillodd y wobr gyntaf yn eisteddfodau cenedlaethol Caerdydd (1883) a Chaernarfon (1886) am gasgliadau o ffosylau.

Yn 1887 dewiswyd ef yn geidwad cynorthwyol (di-dâl) y Powysland Museum yn y Trallwng, a bu'n trefnu ac ychwanegu at y casgliadau daearegol yn yr amgueddfa honno. Etholwyd ef yn gymrawd o'r Geological Society yn 1889; daeth hefyd yn aelod o'r Geologists' Association a'r Conchological Society. Gwnaeth gyfraniadau pwysig i ddehongliad creigiau Siluraidd ac Ordovicaidd Sir Drefaldwyn (mewn papur i'r British Association, 1890). Cyhoeddodd hefyd yn Montgomeryshire Collections lawer o erthyglau ar wartheg, ar gregyn a geir ar dir ac mewn llynnoedd ac afonydd, ac ar greigiau a ffosylau ei sir; bu hefyd yn traddodi darlithiau yn y Welshpool School of Art. Enillodd ysgoloriaeth i'r Royal College of Science (1892) a dyfarnwyd iddo fedal Murchison y Geological Society, eithr oblegid fod ei iechyd yn gwanhau gorfu iddo ymneilltuo i'r Isle of Wight, lle y bu farw, yn Ventnor, ar 8 Mawrth 1894. Cyfrifai daearegwyr cyfoes ei farw cynnar yn golled fawr i'r pwnc hwn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.