MORGAN, GEORGE CADOGAN (1754 - 1798), gweinidog ac athro Ariaidd, a gwyddonydd

Enw: George Cadogan Morgan
Dyddiad geni: 1754
Dyddiad marw: 1798
Rhiant: Sarah Morgan (née Price)
Rhiant: William Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro Ariaidd, a gwyddonydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1754 ym Mhenybont-ar-Ogwr, yn ail fab i William Morgan (meddyg) a'i wraig Sarah Price, chwaer yr athronydd Richard Price - mab arall oedd William Morgan, 1750 - 1833. O ysgol ramadeg y Bont-faen aeth yn 1771 i Goleg Iesu, Rhydychen, â'i fryd ar urddau Anglicanaidd; ond newidiodd ei olygiadau diwinyddol, ac aeth i academi Hoxton. Bu'n weinidog yn Norwich (1776-85) a Yarmouth (1785-6); yna aeth yn gynorthwywr i'w ewythr Richard Price yn academi Hackney. Ymddiswyddodd yn 1791; ar ôl hynny bu'n athro preifat; enillodd gryn glod fel darlithydd ar wyddoniaeth. Fel ei ewythr (y dechreuodd sgrifennu cofiant iddo), yr oedd yn Radical; ac ymwelodd â Ffrainc yn 1789. Bu farw 17 Tachwedd 1798.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.