MORGAN, Syr CHARLES (1575? - 1643?), milwr

Enw: Charles Morgan
Dyddiad geni: 1575?
Dyddiad marw: 1643?
Priod: Elizabeth Morgan (née de Marnix de Sainte Aldegonde)
Plentyn: Ann Morgan (née Morgan)
Rhiant: Frances Morgan (née Leigh)
Rhiant: Edward Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

pedwerydd mab Edward Morgan (1530 - 1585), Pencarn, sir Fynwy, a Frances Leigh, Llundain. Cangen iau o deulu Morganiaid Tredegar oedd ei deulu - yr oeddent wedi cael Pencarn trwy briodas hendaid Charles. Dilynodd dueddiadau milwrol ei ewythr, Syr Thomas Morgan ' the Warrior ' (bu farw 1595) a'i frawd hŷn, Syr Mathew Morgan (a gafodd ei wneuthur yn farchog gan iarll Essex yn Rouen, 1591, ac a fu'n aelod seneddol dros Aberhonddu, 1593), a bu'n gwasnaethu yn Fflandrys, yna fel capten yng nghyrch Essex ar Cadiz, 1596, lle yr oedd ei frawd Syr Matthew yn ' lieutenant-colonel,' ac yn Ostend yn 1601. Yr oedd cymaint o anfodlonrwydd gwleidyddol a chymaint o Babyddion yn ei deulu ac ymhlith ei berthynasau (yn eu mysg yr oedd ei fam, ewythr, brawd, brawd-yng-nghyfraith, a llawer o 'allies and tenants') nes peri i rai pobl obeithio y byddai iddo arwain llu arfog yn erbyn Iago I pan ddeuai hwnnw i'r orsedd, eithr gwrthododd; ac yn wobr, gwnaethpwyd ef yn farchog (23 Gorffennaf 1603). Yna aeth yn ôl i Ostend hyd nes cwympodd y lle hwnnw i ddwylo Spinola (20 Medi 1604); daeth adref yr adeg honno ac fe'i gwnaethpwyd yn ustus heddwch. Wedi i derfysgoedd y ' Pabyddion ' dorri (Mai 1605) yn Swydd Henffordd a De Cymru - dywedwyd fod ei frawd-yng-nghyfraith Rice ap Price yn arweinydd yn y terfysgoedd - cafodd ei garcharu yng ngharchar y Fleet am ' neglecting his place ' a dianc i Lundain ' in a time of such disorder,' eithr yn ddiweddarach bu'n helpu i ddod â'r ardaloedd hynny i drefn. Pan ddaeth yr heddwch â'r Is-Ellmyn i'w derfyn yn 1620 aeth allan gyda llu gwirfoddolwyr Syr Horace Vere (hen gyd-filwr), yr oedd yn ben ar lu Prydain yn Bergen hyd 1622, a bu'n helpu i amddiffyn Breda, 1625. Y flwyddyn ddilynol, gydag arian a gafwyd yn fenthyg gan Syr Thomas Myddelton ac eraill, arweiniodd lu Prydeinig i helpu brenin Denmarc ar rannau isaf afon Elbe, ond er cael cymorth y llynges gan Syr Sackville Trevor (gweler o dan Trevor, Trevalun) a gweithredu gydag ynni a defnyddio pob math o foddion wrth geisio cadw ynghyd lu arfog nad oedd yn derbyn yr adnoddau a ddylai gael, bu raid iddo ildio Staden i Tilly yn 1628. Erbyn 1629 yr oedd yn ei ôl yn Holand eithr yn treulio'r blynyddoedd mewn ofn yn wastad rhag cael ei gymryd i'r ddalfa gan yr echwynwyr a oedd wedi darparu adnoddau i'w fyddinoedd yn ystod cyrch Staden. Bu'n cynorthwyo yng ngwarchae Breda (Awst 1637), ac yn y diwedd daeth, fel ei ewythr ' the Warrior,' yn llywiawdwr Bergen. Mor ddiweddar â 1642 yr oedd yn gofyn caniatâd, gartref, i gasglu dynion ynghyd i lenwi lleoedd gwag yng nghwmni un o'i gapteniaid Cymreig. Ychydig wedi hynny bu farw ' this honest and brave captain ' (fel y'i galwyd gan iarll Essex) a chladdwyd ef yn Delft. Pan oedd ar y Cyfandir priodasai Elisabeth, merch Philip de Marnix de Ste. Aldegonde (bu farw 1598), arglwydd Belgaidd a Phrotestant, a chydweithiwr â William o Orange yng Ngwrthryfel yr Iseldiroedd. Daeth eu hunig ferch, ANN MORGAN (bu farw 1687), adref a phriododd (1), Syr Lewis Morgan, Rhiwperra, sir Fynwy (aelod seneddol dros Gaerdydd, 1628; gwnaethpwyd ef yn farchog, 1629, a bu farw 1635); (2), Walter Strickland,, aelod o ' Council of State ' Cromwell a'r ' Other House '; a (3) John Milborne, Wonaston, sir Fynwy. Daeth Ann yn ddinesydd Prydeinig ar 18 Chwefror 1651. Daeth i feddu tiroedd yn sir Fynwy a phriododd ei merched â theuluoedd o'r rhan honno o'r wlad. Eithr pan fu farw yn Chelsea yn 1687 gofynnodd am gael ei chladdu yn Delft.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.